Clare Cameron

Clare Cameron

Swydd:

Swyddog Datblygu Trafnidiaeth

Aelod o'r:

Mae Clare yn gyfrifol am bopeth sy’n ymwneud â thrafnidiaeth o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae hyn yn golygu blaenoriaethu cyfleoedd trafnidiaeth gynaliadwy yn bennaf, o deithio llesol i flaenoriaeth i fysiau, parcio a theithio, integreiddio trafnidiaeth, yr aer, a hyd yn oed Cerbydau Allyriadau Isel Iawn, ac mae ei gwaith yn targedu holl ddarparwyr a defnyddwyr trafnidiaeth. Yn siartredig mewn Logisteg a Thrafnidiaeth a gyda Thystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil, mae Clare wedi treulio ei holl yrfa yn y sector cyhoeddus, yn HMIT i ddechrau, ac am y 24 mlynedd ddiwethaf mewn llywodraeth leol, lle mae wedi ennill profiad sylweddol ym maes polisi trafnidiaeth, gan baratoi a darparu cynlluniau trafnidiaeth lleol a rhanbarthol, a blaenoriaethu rhaglenni trafnidiaeth a chadeirio amrywiol weithgorau, gan gynnwys bysiau rhanbarthol, teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd.

Mae Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Fargen Ddinesig yn cynnig y cyfleoedd diweddaraf i Clare arwain a llywio’r agenda drafnidiaeth, lle mae angen newidiadau cyflym o ran sut mae’r rhwydwaith trafnidiaeth yn cael ei ddatblygu, yn enwedig oherwydd COVID-19 a’r newidiadau ffordd o fyw a welwyd dros y chwe mis diwethaf. Mae Clare wedi bod yn gweithio yn y rôl hon am y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae hi’n edrych ymlaen at weld y datblygiadau ym maes trafnidiaeth dros y blynyddoedd nesaf.

Ymhlith y diddordebau yn ei hamser rhydd mae rhedeg, hyfforddi pwysau, gwyliau dramor (dim cymaint eleni), darllen, a threulio amser gyda’i theulu mawr a’i ffrindiau.

Cyfarfod â'r tîm

Kellie Beirne

Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Rhys Thomas

Prif Swyddog Gweithredu

Nicola Somerville

Pennaeth Datblygu Busnes a Thwf Cynhwysol

Hrjinder Singh

Pennaeth Cyllid, Risg a Sicrwydd

Robert O’Dwyer

Pennaeth Seilwaith

Dr Liz Fitzgerald

Swyddog Datblygu Busnes a Phartneriaethau