Mae Liz yn un o ddau Swyddog Datblygu Busnes a Phartneriaethau yn Swyddfa’r Fargen Ddinesig. Yn y rôl hon, mae Liz yn gweithio ar draws tîm cyfan y Fargen Ddinesig ac felly mae’n ymwneud ag amrywiaeth eang o waith prosiect, gan gynnwys cefnogi partneriaethau rhanbarthol, prosesau ariannol, llywodraethu a chyfarfodydd gwleidyddol. Mae gan Liz bron i ddeng mlynedd ar hugain o brofiad yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n cynnwys gweinyddiaeth a rheoli swyddfa, rheoli prosiectau, prosiectau marchnata, profiad helaeth o reoli cynadleddau a digwyddiadau, llywodraeth leol, gweithio mewn partneriaeth, rheoli gwefannau, ac ymchwil academaidd.