Mae Gareth yn gyfrifol am arwain a gweithredu Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Lansiwyd rhaglen newydd a chyffrous ar gyfer y Fargen Ddinesig ym mis Hydref 2020, sy’n dangos sut y gall cymhwyso arloesedd i heriau cymdeithasol feithrin cyfoeth lleol i’r rhanbarth.
Mae ganddo gymwysterau graddedig mewn Rheoli Busnes ac Arweinyddiaeth, gyda dros 18 mlynedd o brofiad yn gweithio ar lefelau rheolaeth strategol a gweithredol ym meysydd arloesi, entrepreneuriaeth, ymchwil a datblygu, a datblygu busnes.
Cyn hynny, roedd yn gyfrifol am fentrau proffil uchel dan arweiniad her y sector cyhoeddus ledled y DU, gan arwain at gydweithrediadau ar raddfa fawr rhwng sefydliadau sector cyhoeddus a busnesau.
Fel rhywun a anwyd yng Nghaerdydd ac sydd bellach yn byw ym Mhorthcawl, ymunodd â thîm Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ym mis Mehefin 2020, gan ymrwymo i greu cyfleoedd i’r rhanbarth ffynnu, a herio meddwl confensiynol a ffyrdd ‘arferol’ o weithio, gan alluogi ac annog pobl i ystyried ‘posibilrwydd’.
Yn ei amser rhydd, mae’n mwynhau chwarae golff, rhedeg, ac adnewyddu tai.