Mae Gerry yn gweithio ar gynllun graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda Laura. Ei rôl yw Swyddog Datblygu Graddedigion ac mae hi wir yn mwynhau’r rôl hon gan ei bod yn ymwneud ag annog graddedigion i aros ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a gwneud hwn yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Yn wahanol i’w brodyr a’i chwiorydd, ni chwblhaodd ei gradd yn syth ar ôl yr ysgol felly gweithiodd yn galed i gael ei gradd mewn Rheoli Busnes yn ddiweddarach mewn bywyd, gan weithio mewn swydd amser llawn ar yr un pryd.
Ar ôl graddio, symudodd i yrfa yn y trydydd sector am bron i 20 mlynedd yn gweithio fel rheolwr prosiect, gan weithio gyda phobl ifanc sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’w ffordd mewn bywyd. A hithau’n gweithio gyda graddedigion erbyn hyn, roedd y swydd hon yn ddilyniant naturiol iddi, gan weithio gyda phobl hŷn a’u helpu i chwilio am yrfaoedd cynaliadwy a difyr sy’n defnyddio eu doniau. Yn ei hamser rhydd, mae hi’n cerdded gyda’i theulu, yn coginio, ac yn archwilio ardaloedd newydd yn ei fan wersylla.