Hrjinder yw ein Pennaeth Cyllid, Risg a Sicrwydd ac mae’n aelod o Uwch Dîm Arwain Swyddfa y Fargen Ddinesig. Mae gan Hrjinder dros 27 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes cyllid llywodraeth leol ac mae’n gyfrifydd CIPFA cymwys ers 2001. Ers 2006, mae wedi darparu cyngor a chymorth ariannol ar lefel uwch i ystod o brosiectau a mentrau mawr sy’n cynnwys Cyngor Caerdydd fel rhanddeiliad allweddol, gan helpu i gyflawni nifer o brosiectau seilwaith allweddol yn y ddinas a’r rhanbarth ehangach.
Mae Hrjinder yn gweithio gyda’r tîm i ddatblygu a goruchwylio’r dull o ymdrin â risg a sicrwydd, gan gydbwyso’r rheidrwydd i gymeradwyo a chyflawni prosiectau â her a chraffu priodol, a sicrhau bod cynigion yn fforddiadwy, yn gadarn ac yn cynrychioli gwerth am arian.
Mae Hrjinder yn cefnogi tîm pêl-droed Lerpwl ac mae’n mwynhau gwylio ambell i gêm, yn ogystal â chadw’n heini a gwirfoddoli’n weithredol yn ei deml Sikhaidd leol.