Mae rôl Louise yn cefnogi darparu cartrefi newydd ledled y rhanbarth ac mae ganddi gyfrifoldeb am y rhaglen, sy’n goruchwylio’r Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai a’r Gronfa Cyllid Busnesau Bach a Chanolig. Mae gan Louise flynyddoedd o brofiad yn gweithio yn y maes tai ac mae wedi ymgymryd ag ystod o gyfrifoldebau ar lefel weithredol a strategol.
Cyn ymuno â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ym mis Ionawr 2021, ei swydd ddiweddaraf oedd fel arweinydd y Strategaeth Dai ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghyngor Sir Fynwy. Roedd y rôl hon yn cynnwys darparu tai fforddiadwy a chyfrifoldeb am y polisïau Tai a Chynllunio a alluogodd y cartrefi hyn ac a gefnogodd y swyddogaeth strategol ehangach.
Yn ei hamser hamdden, mae Louise yn mwynhau teithio a threulio amser gyda theulu a ffrindiau, ac ers llynedd mae hi wrth ei bodd yn garddio ac yn bwriadu gwneud llawer mwy ohono.