Rhys Thomas yw Prif Swyddog Gweithredu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac mae’n gyfrifol am oruchwylio Fframwaith Buddsoddi y Fargen Ddinesig a darparu arweinyddiaeth strategol i ddatblygiad ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae Rhys hefyd yn aelod o Gyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi, ac yn aelod o Banel Cynghori Strategol Technoleg FinTech Wales.
Yn flaenorol, roedd gan Rhys nifer o rolau ym Mhrifysgol Caerdydd, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth System Arloesi ac Ymgysylltu â Busnes, lle roedd yn gyfrifol am ddatblygiad ac arweinyddiaeth strategol System Arloesi Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys arwain a rheoli’r timau Arloesi ac Ymgysylltu â Busnes, a hwyluso partneriaeth, cydweithredu a chydlynu effeithiol gyda phartneriaid allanol.
Mae gan Rhys radd israddedig o Brifysgol De Cymru a gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) o Brifysgol Caerdydd.
Yn ei amser rhydd, mae Rhys yn mwynhau treulio amser gyda ffrindiau a theulu, a gwylio rygbi a phêl-droed.