Mae Rob yn gyfrifol am gydlynu’r holl weithgarwch seilwaith o fewn Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Yn ymarferol, mae hyn yn cynnwys goruchwylio prosiect y Ffowndri Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a gwaith ymgysylltu cysylltiedig â’r Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, ynghyd â’r Gronfa Safleoedd ac Adeiladau a’r Strategaeth Ynni, a gweithredu paratoadau ar gyfer ein Hadolygiad Gateway gan Lywodraeth y DU.
Graddiodd Rob fel syrfëwr meintiau o Brifysgol Bryste. Mae wedi cael swyddi uwch ym maes llywodraeth leol ers dros 20 mlynedd, fel Pennaeth Trawsnewid Busnes a Phennaeth Gwasanaethau Eiddo a Chaffael cyn hynny. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn gyfrifol am gyflawni prosiectau buddsoddi cyfalaf mawr a rheoli cyfleusterau gweithredol.
Mae Rob hefyd yn gyfarwyddwr cwmni Y Prentis ac mae’n angerddol am gyfleoedd i bobl ifanc a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn y rhanbarth. Mae hefyd yn angerddol dros yr amgylchedd ac mae bob amser yn awyddus i sicrhau bod yr ‘agenda werdd’ yn uchel ar y rhestr o flaenoriaethau.
Y tu allan i’r gwaith, mae Rob yn deithiwr, yn feiciwr, ac yn chwaraewr tenis brwd. Yn fwy diweddar, mae wedi prynu fan wersylla VW ac mae’n edrych ymlaen at deithio o amgylch y DU.