Mae gan Simon yrfa sy’n cwmpasu’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Yn y sector preifat mae wedi gweithio mewn meysydd mor amrywiol â Thechnoleg, Gweithgynhyrchu Cebl Ffibr Optegol, systemau Amddiffyn, Lletygarwch a Hamdden. Yn y sector cyhoeddus, mae wedi gweithio i Lywodraeth Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru a sefydliadau ym Mrwsel sy’n canolbwyntio ar yr UE. Y thema gyffredin ar draws y profiadau hyn fu datblygu cynhyrchion, cynigion, marchnadoedd ac ymyriadau newydd sy’n archwilio meysydd twf a gofynion sy’n dod i’r amlwg gan alinio’r sefydliad o safbwynt micro a macro.
Ar nodyn personol mae Simon yn dad i ddau o blant, yn gefnogwr brwd d dîm pêl-droed Sir Casnewydd, yn hoff o groeseiriau, yn chwarae sboncen weithiau (ar ôl chwarae ar lefel Sirol pan oedd yn iau). Mae’n credu bod angen ystyried pethau o ddifrif, ond nid yw hynny’n atal gwên, hiwmor da a charedigrwydd. Mae’n rhoi pwyslais a gwerth ar weledigaeth, pwrpas a chreadigrwydd.