Mae Suzanne yn gyfrifol am yr holl weithgareddau yn ymwneud â marchnata a chyfathrebu. Yn ymarferol, mae hyn yn cwmpasu’r sbectrwm llawn o weithgareddau, gan gynnwys creu strategaeth gynnwys, llunio erthyglau arwain agweddau, gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus a’r cyfryngau, a rheoli pob agwedd ar y wefan hyd at reoli cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau ymgyrchu. Mae Suzanne yn gyfrifydd a marchnatwr cymwys, ac mae ganddi arbenigedd masnachol a marchnata sylweddol ar ôl arwain adrannau marchnata mawr mewn cwmnïau blaenllaw fel Barclays ac Allianz.
Ar ôl llwyddo i reoli ei strategaeth ei hun a busnes ymgynghori marchnata am flynyddoedd, ar ddiwedd 2019 gwnaeth y penderfyniad i fentro i diriogaeth ansiartredig y sector cyhoeddus, gan gredu gyda magwraeth a theulu â gwreiddiau cadarn yn y cymoedd ei bod hi’n amser ffarwelio â Llundain a De-ddwyrain Lloegr a defnyddio ei sgiliau i helpu i ddatblygu mentrau ac achosion Cymru. Bydd hi’n treulio’r mwyafrif o’i hamser rhydd yn dilyn gwersi ymarfer corff HIIT Joe Wicks ac yn mwynhau’r awyr agored.