Buddsoddi ac Arloesi
Mae buddsoddi ac arloesi yn mynd law yn llaw ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), a gydnabyddir fel un o’r dinasoedd-ranbarth sy’n tyfu’n gyflymaf, arloesol a medrus yn y Deyrnas Unedig. Mae’r deg Awdurdod Lleol sy’n ffurfio’r corff cyhoeddus hwn yn gweithio mewn partneriaeth agos â Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i gyflawni twf cynaliadwy yn yr economi ac o ran swyddi. Mae pwerau statudol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cwmpasu llesiant economaidd, cynllunio gofodol a thrafnidiaeth, y cyfan â’r amcan o ddarparu buddsoddiad cyhoeddus trawsnewidiol.
Nodwch, os gwelwch yn dda, fod yna feini prawf cymhwysol ar gyfer ymgeisio am arian Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; cwblhewch y ffurflen isod i weld a yw’ch busnes yn gymwys i ymgeisio.