Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi sefydlu ac mae’n rheoli Cronfa Buddsoddi Ehangach (WIF) ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Rôl y Fargen Ddinesig yw adeiladu diwydiannau cadarnach, glân a gymhellir gan dwf y dyfodol, gan annog buddsoddiadau twf cynhwysol bytholwyrdd y gall cenedlaethau i ddod barhau i fedi’r buddion ohonynt.
Mae ein Fframwaith Buddsoddi ac Ymyrryd yn darparu’r cyfle i fusnesau gyflwyno’u cynigion buddsoddi i’n panel dynodedig. Mae’r Fframwaith yn canolbwyntio ar feysydd ymyrraeth blaenoriaethol y rhanbarth, sef Arloesi, Seilwaith a Her, gan ymateb i heriau diwydiannol a chymdeithasol mawrion heddiw ac yfory.
Y Tair Cronfa Flaenoriaeth
- Blaenoriaeth Arloesi Mae’r Gronfa Buddsoddi mewn Arloesi yn ystyried cynigion sy’n dangos eiddo deallusol unigryw, arweinyddiaeth farchnata a chryfder cystadleuol. Bydd yn cefnogi cynigiadau mewn sectorau twf a dargedir sydd â’r potensial mwyaf ar gyfer adenillion economaidd uniongyrchol ar fuddsoddiad drwy fod swyddi wedi’u creu a bod cynnydd mewn Gwerth Ychwanegol Gros.
- Blaenoriaeth Seilwaith Mae’r Flaenoriaeth Seilwaith yn canolbwyntio ar gyd-fuddsoddiad a dargedir a chyfuno adnoddau i ddarparu’r effaith fwyaf drwy gyflenwi prosiectau seilwaith ffisegol a digidol newydd, yn cynnwys ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, band eang, sgiliau, safleoedd neu feinciau arbrofi. Er bod ar y cyfryw brosiectau seilwaith dan arweiniad y sector cyhoeddus angen mwy o wariant, maent yn angenrheidiol er mwyn denu a galluogi buddsoddiad yn y rhanbarth.
- Blaenoriaeth Her Mae’r Gronfa Her yn ceisio ysgogi mabwysiadu cynnyrch a datrysiadau newydd yn Ne-ddwyrain Cymru. Bydd yn mynd ati i dyfu marchnadoedd newydd ac mae’n croesawu cynigion sy’n codi o fannau cystadleuol lle y gallai mwy nag un sefydliad neu unigolyn gael ei gyfarparu i gyflenwi, er mwyn cynnig mwy o hyblygrwydd a rhychwant i arbrofi.
Canfyddwch fwy o wybodaeth am y Fframwaith ac am sut i gyflwyno cynigion buddsoddi.
Cysylltwch â invest@cardiffcapitalregion.wales am fwy o wybodaeth.