Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion
Mae ein cynllun adborth yn rhoi cyfle i chi ddweud wrthym beth rydyn ni’n ei wneud yn dda, gwneud awgrymiadau ar gyfer gwelliannau ac, os ydych yn anfodlon â gwasanaeth, i wneud cwyn. Caiff yr holl adborth a dderbynnir ei adolygu a chraffir ar themâu i ganfod lle mae angen gwelliannau, a chaiff arfer da ei amlygu a’i rannu ar draws ein sefydliad.
Canmoliaeth
Os ydych chi wedi profi gwasanaeth da gan Gyd-bwyllgor Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Ddwyrain Cymru, wedi cael profiad da yn un o’n digwyddiadau, neu eisiau canmol un o’n staff am wneud gwaith da, gallwch ddefnyddio’r ffurflen adborth hon i roi gwybod i ni.
Sylwadau
Mae eich sylwadau am unrhyw agwedd ar ein gweithgareddau, boed yn dda neu’n ddrwg, yn ein helpu i ddeall beth sy’n bwysig i chi, beth rydyn ni’n ei wneud yn dda a lle mae meysydd y gallem eu gwella.
Gallwch wneud sylwadau neu ganmol yn y ffyrdd canlynol:
- Gofynnwch am gopi o’n ffurflen adborth gan yr aelod o staff rydych chi eisoes mewn cysylltiad a nhw
- Llenwch ein ffurflen ar-lein
- Ysgrifennwch atom ni: Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Adborth, Sbarc|Spark, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ
Er ein bod yn annog canmoliaeth a sylwadau, nid yw’n bosibl ymateb i bob un a dderbyniwn.
Cwynion
Rydyn ni’n cydnabod, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, fod pethau’n mynd o chwith weithiau a, phan fydd hyn yn digwydd, rydyn ni am unioni pethau.
Mae ein Polisi Cwynion yn esbonio beth i’w wneud os oes gennych gŵyn neu bryder am ein sefydliad neu weithgareddau. Gallwch gwblhau ein ffurflen ar-lein os ydych am wneud cwyn.
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am ymddygiad neu ymddygiad cynghorydd lleol, dylech gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
- Dros y ffôn: 0300 790 0203
- Drwy e-bost: holwch@ombwdsmon.cymru
- Yn ysgrifenedig: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ
Gallwch hefyd gysylltu â’n Swyddog Monitro, naill ai’n ysgrifenedig neu drwy e-bost MonitoringOfficer@cardiffcapitalregion.gov.uk.
Cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg
Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau penodol i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â’r Gymraeg. Mae Safonau’r Gymraeg a roddwyd i Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Ddwyrain Cymru wedi’u rhestru yn ein Hysbysiad Cydymffurfio a gyhoeddwyd o dan Adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Bydd cwynion neu bryderon ynghylch y Gymraeg yn dilyn yr amserlenni a’r camau sy’n cael eu nodi yn ein Polisi Cwynion.
Os ydych chi o’r farn nad yw’r gŵyn wedi’i datrys yn foddhaol neu fod rhywun yn ymyrryd â’ch rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg, cewch chi gwyno’n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg. Mae modd cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg:
- Rhif ffôn: 0845 6033221
- Drwy anfon e-bost: post@comisiynyddygymraeg.org
- Drwy ysgrifennu at: Comisiynydd y Gymraeg, Siambrau’r Farchnad, 5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1AT