Ymgysylltiad ar y Cynllun Datblygu Strategol
Pwy yw Prifddinas-Ranbarth Caerdydd?
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Gyd-bwyllgor Corfforaethol, a ddaw â deg o Gynghorau ynghyd ledled De-ddwyrain Cymru i ysgogi newid ar raddfa ranbarthol. Er 2017, rydym wedi creu a diogelu dros 3,000 o swyddi, rydym wedi cynorthwyo mwy na 200 o fusnesau, ac rydym wedi buddsoddi miliynau o bunnau yn ein system drafnidiaeth Metro.
Ein cenhadaeth yw dyrchafu ansawdd bywyd i bobl leol trwy fuddsoddi mewn swyddi, trafnidiaeth, cartrefi a chymunedau. Gyda chyfrifoldebau newydd tros drafnidiaeth, cynllunio datblygu strategol a lles economaidd, rydym mewn sefyllfa dda i gyflawni hyd yn oed mwy.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cwmpasu ardaloedd y 10 Cyngor ym Mlaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Caerdydd; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Torfaen; a Bro Morgannwg. Gellir canfod mwy o wybodaeth am bwy ydym yma.
Cynllun Datblygu Strategol
Rydym wedi’n hymrwymo i drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i fod yn economi mwy cystadleuol, cysylltiedig a chadarnach, a bydd cynllunio gofodol strategol, law yn llaw â phwerau newydd mewn trafnidiaeth a lles economaidd, yn helpu i gyflawni hynny. Yn unol â’r uchelgais hon, byddwn yn cydweithredu ag awdurdodau lleol i baratoi Cynllun Datblygu Strategol, sy’n amlinellu gweledigaeth a strategaeth gyffredinol ar gyfer De-ddwyrain Cymru, ac yn nodi lleoliadau a mannau strategol ar gyfer twf a newid yn y dyfodol.
Un o’r dibenion allweddol ar gyfer y Cynllun hwn yw gweithio ledled ffiniau awdurdodau lleol, gan adlewyrchu sut mae pobl yn byw ac yn gweithio. Fel cynllun cyfnod hir (gydag ystod leiaf o 25 mlynedd), y bwriad yw y bydd, yn y pen draw, yn galluogi ymagwedd fwy cyson ac effeithlon tuag at gynllunio defnydd tir. Datblygir y Cynllun dros nifer o flynyddoedd, a’n nod yw y bydd y Cynllun Datblygu Strategol wedi’i fabwysiadu erbyn tua 2031.
Mae datblygu Cynllun Datblygu Strategol yn rhoi’r cyfle i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd gynllunio’n well a chyflawni twf strategol sy’n bwysig yn rhanbarthol, mewn modd cydgysylltiedig, trawsffiniol, yn gyson â’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Cytundeb Cyflawni
Ym mis Gorffennaf, 2024, penderfynodd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CJC) ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ynglŷn â’r Cytundeb Cyflenwi drafft, gan nodi’r cam cyntaf wrth ddatblygu’r Cynllun Datblygu Strategol.
Cynlluniwyd yr ymgysylltiad cynnar hwn i hyrwyddo cyfranogi ystyrlon a chynhwysol, sy’n tanlinellu ymrwymiad y Pwyllgor i broses deg a thryloyw. Cryfhawyd y Cytundeb Cyflenwi drafft trwy ymgorffori ystod eang o safbwyntiau, gan gyfnerthu’i gadernid, ei hygrededd a chysoni ag anghenion a dyheadau rhanddeiliaid.
Gyda chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, gallwn yn awr fynd â’r cam nesaf ymlaen gyda’r Cynllun Datblygu Strategol, gan fod ei Gytundeb Cyflenwi’n ymgorffori’r Cynllun Cynnwys Cymunedau (CIS). Mae hyn yn helpu i ddiffinio sut a pha bryd y gall rhanddeiliaid, yn ogystal â’r gymuned ehangach, gymryd rhan yn y broses o lunio cynllun. Mae hyn yn sicrhau bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gwreiddio didwylledd, cynhwysiant a thryloywder o’r dechrau un.
Mae’r Cytundeb Cyflenwi hefyd yn darparu amserlen fanwl ar gyfer paratoi’r Cynllun Datblygu Strategol (SDP), gan nodi camau, cerrig milltir a therfynau amser pendant i dywys cynnydd y gorchwyl.
Ar yr 31ain o Fawrth, 2025, cymeradwyodd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru (SEWCJC) y Cytundeb Cyflenwi ar gyfer Cynllun Datblygu Strategol (SDP) Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Cytunodd Llywodraeth Cymru wedyn ar y Cytundeb Cyflenwi ar y 20ain o Awst, 2025.
Safleoedd Ymgeisiol ac Ardaloedd Chwilio Strategol
Mae’r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ac Ardaloedd Chwilio Strategol yn ffurfio rhan bwysig o baratoi’r Cynllun Datblygu Strategol (SDP). Mae’n darparu cyfle i dirfeddianwyr, datblygwyr a rhanddeiliaid gyflwyno tir neu leoliadau a all gyfrannu tuag at anghenion datblygu cyfnod hir y rhanbarth, yn cynnwys tai, cyflogaeth, seilwaith ac adfywio.
Caiff pob cyflwyniad ei ystyried fel rhan o broses dryloyw, dan arweiniad tystiolaeth i hysbysu’r strategaeth ofodol sy’n ymddangos. Fodd bynnag, bydd y Cynllun Datblygu Strategol dan arweiniad strategaeth, gyda graddfa a dosbarthiad cyffredinol y twf yn cael ei bennu trwy’r dystiolaeth ehangach ac Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig. Bydd cyflwyniadau yn hysbysu’r broses hon ond ni fyddant yn pennu’r strategaeth na chanlyniadau.
Bydd y Galwad am Safleoedd Ymgeisiol Strategol ac Ardaloedd Chwilio yn rhedeg am gyfnod o 8 wythnos, gan ddechrau ar 26 Mai 2026 a chau ar 21 Gorffennaf 2026.
Cliciwch yma i weld y canllawiau
Cliciwch yma i weld y ffurflen gyflwyno