Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Ddwyrain Cymru

Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru (CJC) yw’r prif gorff sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am y swyddogaethau canlynol:

  • paratoi Cynllun Datblygu Strategol;
  • paratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol; a
  • gwneud yr hyn y teimlir sy’n angenrheidiol i wella neu hybu lles economaidd yr ardal.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn gyfrifol am Gyfansoddiad y CJC, gosod polisi, gosod y gyllideb flynyddol, cytuno ar gylch gorchwyl ei is-bwyllgorau a phenodi Prif Swyddogion.

Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Mae’r Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn gyfrifol am adolygu a chraffu ar faterion ariannol y CJC a’i drefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol, rheoli perfformiad a llywodraethu corfforaethol. Mae’r Is-bwyllgor hefyd yn gyfrifol am adolygu ac asesu gallu’r CJC i ymdrin â chŵynion yn effeithiol. Yn ogystal, mae’r Is-bwyllgor yn goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol y CJC ac yn adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a baratoir gan y CJC.

Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu 

Mae’r Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn gyfrifol am adolygu a chraffu ar benderfyniadau a wneir gan y CJC ac am wneud adroddiadau neu argymhellion i’r CJC ynglŷn â chyflawni ei swyddogaethau. Lle bo’n briodol, gall y Cyd-bwyllgor argymell ailystyried penderfyniad a wneir gan y CJC. Gall y Cyd-bwyllgor ei gwneud yn ofynnol i aelodau neu swyddogion y CJC fynychu ac ateb cwestiynau. Gall hefyd wahodd pobl eraill i fynychu ei gyfarfodydd. Gweinyddir Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu SEWCJC gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Is-bwyllgor Safonau

Mae’r Is-bwyllgor Safonau yn gyfrifol am hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel ymhlith aelodau ac aelodau cyfetholedig, gan eu cynorthwyo i ddilyn Cod Ymddygiad yr Aelodau, a chynghori’r CJC ar fabwysiadu neu ddiwygio’r Cod. Mae’n monitro gweithrediad y Cod, yn rhoi cyngor neu hyfforddiant i aelodau ar faterion sy’n ymwneud â’r Cod, ac yn cyflwyno adroddiad blynyddol i’r CJC sy’n nodi sut y cyflawnwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol.

Mae Pwyllgor Safonau a Moeseg Cyngor Caerdydd yn darparu’r swyddogaeth hon ar ran y CJC.

Is-bwyllgor Penodiadau

Mae’r Is-bwyllgor Penodiadau yn gyfrifol am benodi, diswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn Prif Swyddogion a Dirprwy Brif Swyddogion. Mae hefyd yn penderfynu lefel y tâl a delir i Brif Swyddogion, yn ystyried unrhyw apêl gan aelod o staff yn erbyn penderfyniadau diswyddo neu gamau disgyblu, yn cymeradwyo unrhyw daliadau diswyddo i Brif Swyddogion, ac yn gyfrifol am benodi Aelodau Annibynnol o’r Gymuned Fusnes i’r Bwrdd Twf Rhanbarthol a’r Bwrdd Buddsoddi.

Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol

Mae’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gyfrifol am lunio strategaethau, cynlluniau, polisïau a rhaglenni trafnidiaeth rhanbarthol i’w cymeradwyo gan y Cydbwyllgor Corfforaethol. Mae hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, grwpiau defnyddwyr, y diwydiant a rhanddeiliaid eraill i gydlynu gwaith cynllunio trafnidiaeth a gweithrediadau trafnidiaeth ledled y rhanbarth ar ran y Cydbwyllgor Corfforaethol. Mae hyn yn cynnwys datblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Posibl i’w hasesu yn rhan o Fframwaith Buddsoddi’r Cydbwyllgor Corfforaethol, a darparu cyngor a sylwadau sy’n ymwneud â Chynlluniau Posibl sydd wedi’u cyflwyno i’r Cydbwyllgor Corfforaethol gan gyrff eraill, mae hyn yn cynnwys manylion am oblygiadau o ran trafnidiaeth. Mae modd i’r Is-bwyllgor sefydlu is-grwpiau neu Grwpiau Gorchwyl a Gorffen, gan gynnwys Grŵp Adolygu Trafnidiaeth Rhanbarthol, os ydyn nhw o’r farn y byddai’n well trafod unrhyw faterion yn y modd yma.

Is-bwyllgor Datblygu Strategol

Bydd yr Is-bwyllgor Datblygu Strategol yn gyfrifol am baratoi Cynllun Datblygu Strategol i’w gymeradwyo gan y CJC, gan nodi amcanion y CJC mewn perthynas â datblygu a defnydd tir yn ei ardal a pholisïau ar gyfer gweithredu’r amcanion hynny. Mae hefyd yn gyfrifol am gynnal adolygiadau o’r materion y gellid disgwyl iddynt effeithio ar ddatblygiad, neu gynllunio datblygiad, yn ei ardal.

Skip to content