Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth
Mae’n ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi sy’n nodi pa wybodaeth fydd ar gael fel mater o drefn, sut y gellir cael gafael ar yr wybodaeth ac a yw’r wybodaeth yn rhad ac am ddim ai peidio.
Syniad cynllun cyhoeddi yw ceisio sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael yn rhwydd ac yn hawdd i’w chyrchu fel nad oes angen i chi wneud cais penodol.
Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Ddwyrain Cymru wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddi enghreifftiol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae hwn yn nodi saith ‘dosbarth’ o wybodaeth, sydd wedi’u nodi isod ac yn cysylltu â gwybodaeth ar ein gwefan:
- Pwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud
- Beth rydyn ni’n ei wario a sut rydyn ni’n ei wario
- Beth yw ein blaenoriaethau a sut rydyn ni’n gwneud
- Sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau
- Ein polisïau a’n gweithdrefnau
- Rhestrau a Chofrestrau
Byddwn yn adolygu ein cynllun cyhoeddi bob blwyddyn. Fodd bynnag, bydd deunydd sydd wedi’i gynnwys yn y dosbarthiadau gwybodaeth yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen a bydd unrhyw wybodaeth sydd wedi dyddio yn cael ei dileu.