GDPR a Diogelu Data
Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 yn rhoi hawliau i unigolion ynghylch sut rydym yn defnyddio eich data personol.
Mae’r GDPR yn rhoi’r hawliau canlynol i unigolion:
- Yr hawl i gael gwybod
- Yr hawl i fynediad
- Yr hawl i gywiro
- Yr hawl i ddileu
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
- Yr hawl i gludadwyedd data
- Yr hawl i wrthwynebu
- Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd
Gellir cysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn y ffyrdd canlynol:
E-bostiwch ni: InfoRights@cardiffcapitalregion.gov.uk
Ysgrifennwch atom ni: Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Swyddog Diogelu Data, Sbarc|Spark, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ
Mae gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn rhoi cyngor ac adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.