Sut i wneud cais Rhyddid Gwybodaeth
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl mynediad i wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae’n hyrwyddo didwylledd ac atebolrwydd ymhlith sefydliadau’r sector cyhoeddus fel y gall pawb ddeall sut mae awdurdodau’n gwneud penderfyniadau, yn cyflawni eu dyletswyddau ac yn gwario arian cyhoeddus.
O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae gennych yr hawl i’r canlynol:
- Cael gwybod a ydyn ni’n cadw cofnod o’r wybodaeth y gofynnoch amdani;
- Datgelu’r wybodaeth i chi os ydyn ni’n ei dal. Oni bai ei bod wedi’i chwmpasu gan un o’r eithriadau yn y Ddeddf;
- Derbyn cyngor a chymorth rhesymol i wneud y cais.
O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae gennych yr hawl i’r canlynol:
- Cael gwybod a ydyn ni’n cadw cofnod o’r wybodaeth y gofynnoch amdani;
- Datgelu’r wybodaeth i chi os ydyn ni’n ei dal. Oni bai ei bod wedi’i chwmpasu gan un o’r eithriadau yn y Ddeddf;
- Derbyn cyngor a chymorth rhesymol i wneud y cais.
Mae’r hawliau hyn yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a’r eithriadau a osodir gan y Ddeddf a deddfwriaeth arall. Mae llawer o gyfyngiadau ac eithriadau yn berthnasol dim ond os nad yw er budd y cyhoedd i’r wybodaeth gael ei datgelu. Gall gwybodaeth a ddatgelir fod yn destun hawlfraint neu gyfyngiadau eraill ar ailddefnyddio. Mae canllawiau pellach ar gael ar sut i ofyn am wybodaeth gan gorff cyhoeddus ar Wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyn i chi gyflwyno cais, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwirio ein Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth.
Os ydych yn gofyn am ddata personol, bydd angen i chi gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth a fydd yn cael ei brosesu o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.
Er mwyn i ni sicrhau yr ymdrinnir â’ch cais yn brydlon, rhaid i chi ddarparu:
- Eich enw a’ch cyfeiriad fel y gallwn ymateb i’ch cais;
- Cais ysgrifenedig clir a dealladwy;
- Arwydd ynghylch y ffurf yr hoffech chi’r wybodaeth ynddi.
Gallwch wneud cais am wybodaeth yn y ffyrdd canlynol:
E-bostiwch ni: FOI@cardiffcapitalregion.gov.uk
Ysgrifennwch atom ni: Prifddinas Caerdydd, Rhanbarth, Tîm Rhyddid Gwybodaeth, Sbarc|Spark, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ
Mae’n ofynnol i Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Ddwyrain Cymru ddatgelu’r wybodaeth y gofynnwch amdani o fewn 20 diwrnod gwaith oni bai bod hysbysiad ffioedd yn berthnasol neu fod angen estyniad amser rhesymol arnom i ystyried prawf lles y cyhoedd.
Mae gennych yr hawl i ofyn am adolygiad mewnol o’n penderfyniad ac os ydych yn dal yn anfodlon, i gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth.