Gyrfaoedd ym Mhifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn ymfalchïo yn ei phobl – mae’n cyflogi’r bobl iawn yn y rolau iawn i uchafu’n heffaith gadarnhaol ar fusnesau a chymunedau ledled De-ddwyrain Cymru

Mae gan bob unigolyn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rôl i wireddu’n huchelgais o ffyniant cyffredin, cynyddu cynhyrchiant a datblygu economi gwyrddach a thecach – sy’n tanategu’n gweledigaeth ganolog o dwf cynhwysol. Drwy ymuno â’n sefydliad, byddech yn cyfrannu tuag at ein cenhadaeth o greu Rhanbarth cystadleuol, cysylltiedig a chadarn drwy gyflawni ymyriadau strategol sy’n meithrin llesiant cymdeithasol ac economaidd, gan sicrhau y caiff pob cymuned yn ein Rhanbarth gyfle a’u bod yn gallu cyrraedd eu potensial.

Our Current Opportunities

Please note: CCR use RCT Council’s job platform to advertise job opportunities, however all jobs listed on this page are positions employed by CCR, not RCT.

Prif Gynlluniwr (Datblygu Strategol)

Swydd Wag – 2 x 37 awr y wythnos

Cyflog: £45,091 – £48,226

Ynglŷn â’r Rôl


Mae hwn yn gyfle prin i weithio ar flaen y gad o ran cynllunio rhanbarthol yng Nghymru. Fel Prif Gynlluniwr, byddwch yn arwain elfennau cymhleth ac uchel eu proffil o’r Cynllun Datblygu Strategol, gan helpu i lunio’r weledigaeth ofodol hirdymor ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Byddwch yn cymryd perchenogaeth o ffrydiau gwaith polisi mawr, yn rheoli tystiolaeth dechnegol, ac yn helpu i ddarparu atebion integredig i rai o heriau mwyaf y rhanbarth — gan gynnwys twf tai, integreiddio trafnidiaeth, cydnerthedd hinsawdd, darparu seilwaith, datblygu economaidd, a chreu lleoedd cynaliadwy.


Byddwch yn cydweithio’n agos ag uwch swyddogion, aelodau etholedig, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol, ymgynghorwyr, a rhanddeiliaid rhanbarthol allweddol i helpu i gyflawni strategaeth ranbarthol gadarn ac uchelgeisiol.


Mae’r rôl yn cynnig ymreolaeth broffesiynol sylweddol a’r cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau strategol ar y lefel uchaf.

Ymgeisio yma.

Am drafodaeth anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â:

Richard Matthams – Pennaeth Datblygu Strategol richard.matthams@cardiffcapitalregion.gov.uk

 

 

 

 

Skip to content