Gwybodaeth Llywodraethu
Mae’r dudalen hon yn darparu dolenni i’r dogfennau allweddol sy’n nodi sut mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Ddwyrain Cymru yn cael ei lywodraethu.
Cyfansoddiad
Mae ein cyfansoddiad yn darparu’r fframwaith yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddo. Mae’n disgrifio sut y gwneir penderfyniadau, pwy sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau a’r gweithdrefnau a ddilynir i sicrhau ein bod yn dryloyw, yn atebol ac yn effeithlon.
Fframwaith Sicrwydd
Mae ein Fframwaith Sicrwydd yn nodi’r trefniadau sydd gennym ar waith i sicrhau sut y caiff arian cyhoeddus ei reoli’n effeithiol. Mae’n egluro sut rydym yn pennu ac yn gwerthuso cynlluniau i gyflawni gwerth am arian.
Gweithdrefn Gŵynion
Rydym yn cydnabod, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, fod pethau’n mynd o chwith weithiau a, phan fydd hyn yn digwydd, rydym am unioni pethau. Mae ein Polisi Cwynion yn esbonio beth i’w wneud os oes gennych gŵyn neu bryder am ein sefydliad neu ein gweithgareddau.
Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Mae ein Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn asesiad o’n trefniadau llywodraethu, gan ddilyn yr egwyddorion a ddatblygwyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).
Swyddog Monitro
Swyddog Monitro Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Ddwyrain Cymru yw Jayne La Grua.
- MonitoringOfficer@cardiffcapitalregion.gov.uk
- Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Sbarc|Spark, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ