Hwb y Prosiect

Statws:
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) yn cynnal astudiaethau dichonoldeb a datblygu cychwynnol ar gyfer morlyn llanw arfaethedig yn Aberddawan, ar arfordir de Cymru.
Statws:
Gan ganolbwyntio ar weithgynhyrchu uwch a thechnoleg ddigidol, mae’r Parth Buddsoddi yn adeiladu ar glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd y rhanbarth a gydnabyddir yn fyd-eang i greu ecosystem arloesi gystadleuol sy’n gynhwysol, yn gynaliadwy ac sy’n canolbwyntio ar y dyfodol yn lleol.
Statws:
Mae gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd. Mae dros ddegawd o doriadau mewn cyllidebau, ynghyd â’r angen i ddelio â heriau newydd fel effaith bellgyrhaeddol yr hinsawdd a’r argyfwng costau byw, wedi arwain at gynnydd enfawr yn y galw am wasanaethau.
Statws:
Yn aml, daw’r arloesiadau mwyaf trawsnewidiol oddi wrth y rheiny sy’n adnabod eich busnes orau – eich pobl eich hun. Cynlluniwyd y Rhaglen ‘Arloesi o’r Tu Mewn’ i helpu cwmnïau a sefydliadau yn rhanbarth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i harneisio creadigrwydd mewnol ac i rymuso unigolion i ysgogi newid effeithiol.
Statws:
Mae Cyfalaf Buddsoddi Mewn Arloesi P-RC yn gronfa ecwiti gwerth £50 miliwn sy’n cefnogi busnesau sydd wrthi’n tyfu ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ne-ddwyrain Cymru.
Statws: Delivery
Mae’r Gronfa Safleoedd yn Gronfa gwerth £50m a sefydlwyd i gefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Diwydiannol ac Economaidd P-RC drwy ddatblygu safleoedd newydd a gofod llawr modern sy’n galluogi busnesau newydd i dyfu ac yna buddsoddi er lles y rhanbarth.
Statws: Cyflenwi
Sefydlu ffowndri enfawr, arloesol a phwysig newydd ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd rhwng Casnewydd a Chaerdydd, fel angor rhanbarthol ar gyfer cynhyrchiad o’r radd flaenaf o led-ddargludyddion cyfansawdd.
Statws: Cyflenwi
Creu cartrefi newydd ledled y rhanbarth drwy ddarparu cyllid bwlch hyfywedd i ddatgloi safleoedd datblygiad preswyl sydd wedi’u hoedi.
Statws: Achos busnes
Integreiddio rhagoriaeth ymchwil o brifysgolion y rhanbarth â chadwyni cyflenwi unigryw’r rhanbarth mewn gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion uwch.
Statws: Cyflenwi
Ailadeiladu cyfoeth lleol drwy gyrchu datrysiadau arloesol i fynd i’r afael â rhai o broblemau cymdeithasol mwyaf dybryd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Statws: Cyflenwi
Cefnogi datblygiad technoleg sterileiddio a diheintio plasma oeraidd yn Creo Medical.
Statws: Cyflenwi
Cynorthwyo busnesau bach a chanolig lleol i gyrchu talent newydd drwy ddarparu proses chwilio a dethol graddedigion sydd yn rhad ac am ddim.
Statws: Cyflenwi
Cefnogi’r gwaith o fasnacheiddio a chyflwyno cynnyrch meddalwedd dadansoddol a fydd yn darparu’r gallu i gynnal astudiaethau gwyddonol cymhleth mewn oriau yn hytrach na misoedd.
Statws: Cyflwyno
Creu cyfleuster twristiaeth antur sy’n efelychu’r model Zip World llwyddiannus sy’n weithredol ym Mhenrhyn.
Statws: Cyflenwi
Cefnogi’r gwaith o greu cynllun strategol ar gyfer datblygiad i’r sector yn y dyfodol.
Statws: Cyflwyno
Ailddatblygu gorsaf drenau Caerdydd Canolog er mwyn creu canolfan drafnidiaeth integredig a fydd yn sicrhau gwelliant sylweddol i’r mynediad i ganol Caerdydd.
Statws: Cyflwyno
Creu cysylltiad rheilffordd 3-4 milltir o hyd o Abertyleri i Gwm Ebwy, yn Aber-bîg, gan gynnwys cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer 100 o gerbydau.
Statws: Cyflwyno
Creu cyfnewidfa fysiau a chyfleuster parcio a theithio yng ngorsaf reilffordd Dociau’r Barri er mwyn gweithredu fel porth i ganol y dref a Glannau’r Barri.
Statws: Cyflawni
Cyflwyno cyfnewidfa rhwng y rheilffyrdd a’r bws, gan gynnwys cyfleusterau teithwyr o ansawdd uchel, gwybodaeth electronig, mwy o gapasiti o’r 280 o leoedd parcio a theithio presennol, a gwefru trydanol ar gyfer bysiau a cheir preifat.
Statws: Cyflwyno
Cyflwyno cyfres o becynnau cynaliadwy a theithio llesol a fydd yn hwyluso cysylltiadau bws gwell yng nghanol dinas Caerdydd, seilwaith teithio llesol gwell, a gwelliannau o safbwynt diogelwch cerddwyr.
Skip to content