Cyrff Llywodraethu
Llywodraethu
Cabinet Rhanbarthol
Mae Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfrifol am arweinyddiaeth, gweledigaeth a chyfeiriad strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn gorff gwneud penderfyniadau terfynol ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Cyd-bwyllgor corfforaethol De-Dwyrain Cymru
Mae Cyd-bwyllgor corfforaethol De-Dwyrain Cymru yn gyfrifol am Gynllunio Datblygu Strategol, Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol ac am hyrwyddo Lles Economaidd. Rhoddir y 3 swyddogaeth graidd hyn i’r Cyd-bwyllgor Gan Lywodraeth Cymru ar 30 Mehefin 2022.
Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol
Mae Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfrifol am gynllunio trafnidiaeth a buddsoddi ynddi ledled y rhanbarth ac am gynghori Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar strategaethau a argymhellir i gyflawni amcanion trafnidiaeth.
Cydbwyllgor Craffu
Mae’r Cydbwyllgor Craffu yn gyfrifol am fonitro gweithgarwch prosiect y Fargen Ddinesig ac am wneud argymhellion i’r Cabinet Rhanbarthol.
Bwrdd CSC Foundry
Mae Bwrdd CSC Foundry yn gyfrifol am sicrhau bod y prosiect lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cyflawni ei amcanion arfaethedig.