Agorwyd datblygiad swyddfeydd mawr newydd yng nghanol Caerdydd yr hydref hwn, yn dilyn benthyciad o £15 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) i helpu i ddarparu gofod cyflogaeth cynaliadwy o ansawdd uchel yn Stryd John.
Gyda chyllid gan Gronfa Safleoedd Strategol PRC, mae’r buddsoddiad wedi galluogi’r datblygwyr JR Smart i ddarparu adeilad swyddfeydd 10 llawr a 114,000 troedfedd sgwâr yn Sgwâr Callaghan. Mae’r cynllun hefyd wedi denu Lloyds Banking Group fel tenant gyda chytundeb prydles 10 mlynedd, gan ddod â mwy na 3,000 o swyddi i ganol y ddinas.
Wrth gyflwyno gweledigaeth y datblygwr ar gyfer y cynllun, dywedodd Gareth Smart, Cyfarwyddwr JR Smart: “Gyda’r prosiect hwn rydym ni wedi codi’r safon ar gyfer swyddfeydd cynaliadwy yng nghanol y ddinas; mae ein datblygiad yn Stryd John wedi ennill sgôr BREEAM ‘Rhagorol’, gydag ymrwymiad i leihau effaith amgylcheddol yr adeilad, gan ymgorffori gwasanaethau holl-drydanol, graddfa EPC ‘A’, achrediad WELL ‘Arian’ a theras ar y to sy’n edrych dros Gaerdydd a Bae Caerdydd.”
Mae PRC yn un o ddinas-ranbarthau’r DU, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraethau Cymru a’r DU i ysgogi twf economaidd cynhwysol trwy fuddsoddi mewn seilwaith, sgiliau, arloesedd a datblygu cynaliadwy.
Wrth sôn am fanteision hirdymor y prosiect, dywedodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr PRC: “Mae’n wych gweld Lloyds Banking Group yn symud i’w swyddfeydd newydd yn Stryd John. Dyma’r math o fuddsoddiad y cafodd PRC ei greu i’w gefnogi. Trwy ein partneriaeth â JR Smart, CBRE a’r Gronfa Safleoedd Strategol, mae safle allweddol yng nghanol y ddinas wedi’i ddatgloi; mae hyn wedi cyfuno datblygu cynaliadwy, creu gofod cyflogaeth o ansawdd, denu buddsoddiad sylweddol o’r sector preifat a sicrhau miloedd o swyddi yn un o’r lleoliadau pwysicaf yn strategol yn y rhanbarth.
“Yn ogystal â chefnogaeth PRC ar gyfer gwelliannau i Orsaf Ganolog Caerdydd, Metro De Cymru, cynllun Crossrail sy’n gwasanaethu Sgwâr Callaghan a chanolfan trafnidiaeth Parcffordd Caerdydd sydd newydd ei gymeradwyo, mae prosiectau fel Stryd John yn helpu i greu’r amgylchedd busnes modern a chysylltiedig sydd ei angen i ddenu buddsoddiad, cefnogi cyflogwyr ac ysgogi twf economaidd hirdymor ledled de-ddwyrain Cymru.” .