Mae Cronfa Prifddinas-ranbarth Caerdydd (P-RC) yn gwahodd cyrff y sector cyhoeddus i ddatblygu heriau a chysylltu â sefydliadau a all roi atebion i’r heriau hynny, gan arwain at wasanaethau gwell, ac effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chynhyrchiant gwell.
Diben y cyllid yw helpu’r sector cyhoeddus i gael cynhyrchion a gwasanaethau newydd ar gyfer heriau ac wrth wneud hynny, i ddarparu llwybr i’r farchnad ar gyfer yr atebion hynny.
Rydym yn rhoi cyfle i gyrff y sector cyhoeddus ymhob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i dderbyn hyd at 100% o gyllid er mwyn cefnogi datblygu heriau. Gwahoddir y Sector Cyhoeddus i gystadlu am gyfran o £10m gyda’r heriau cryfaf yn cael eu dewis ar gyfer cyllid.
Mae manteision cymryd rhan yn cynnwys:
- Cyfle i archwilio atebion creadigol i heriau economaidd lleol
- Buddsoddi i ddod o hyd i atebion arloesol a’u datblygu
- Gwell darpariaeth gwasanaethau lleol sy’n elwa o atebion wedi’u teilwra
- Creu marchnad newydd a’r gallu i ‘dorri drwodd’ fframweithiau caffael cyhoeddus
- Potensial ar gyfer atebion masnachol y gellir eu graddio a’u gwerthu’n lleol a thu hwnt
- Twf a datblygiad y gadwyn gyflenwi leol
Ynglŷn â’r Gronfa Her
Mae Cronfa Her P-RC yn darparu mecanwaith i ymgysylltu â ‘Pherchnogion Her’ a ‘Darparwyr Atebion’ y Sector Cyhoeddus drwy heriau sy’n seiliedig ar arloesedd.
Nod y Gronfa Her yw adeiladu cyfoeth lleol drwy greu cyfleoedd masnachol i sefydliadau ar draws Prifddinas-ranbarth Caerdydd, drwy eu gwahodd i gynnig atebion i heriau ar draws tair thema flaenoriaeth: cyflymu datgarboneiddio, gwella iechyd a lles dinasyddion y rhanbarth, a chefnogi, gwella a thrawsnewid cymunedau.
Gan dynnu ar greadigrwydd a dyfeisgarwch y rhanbarth a dod â’r sector cyhoeddus a phreifat ynghyd er mwyn darparu atebion newydd, gwelliannau mawr a chyfleoedd busnes newydd, mae’r gronfa’n canolbwyntio ar y blaenoriaethau mwyaf taer sy’n wynebu’r rhanbarth.
Mae heriau’n broblemau, sydd, os cânt eu datrys, yn rhoi buddion i’r sector cyhoeddus a chyfleoedd masnachol ar gyfer y sefydliadau sy’n datblygu atebion.
Disgwylir i faint a graddfa pob Her amrywio a bydd yn dibynnu i raddau helaeth ar y blaenoriaethau a’r ymagwedd orau at ddatrys yr heriau a nodwyd.
Rheolir a ddarperir Cronfa’r Her drwy bartneriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Prifysgol Caerdydd ac Y Lab. Bydd Perchnogion Heriau’n tynnu ar yr arbenigedd ar y cyd gan y partneriaid i ddylunio a datblygu eu heriau.
A ydw i’n gymwys?
Targedir y galw cychwynnol am Heriau at sefydliadau’r Sector Cyhoeddus ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n dymuno datblygu a rhedeg heriau.
Gall sefydliadau’r sector cyhoeddus gynnwys Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, Heddluoedd ayyb. Fodd bynnag, er mwyn i heriau dderbyn cyllid, mae’n rhaid i bob her ddangos lle i:
- Ddatrys yr heriau mwyaf yn y gymdeithas
- Creu atebion arloesol
- Darparu effaith economaidd i’r rhanbarth
- Gyrru cyfleoedd masnachol a allai ehangu’n gyflym
- Adeiladu cyfoeth lleol
Caiff pob her ei hasesu yn erbyn yr un meini prawf
Sut i wneud cais
Anogir sefydliadau’r Sector Cyhoeddus yn y rhanbarth i fod yn bresennol yn y digwyddiad briffio rhithwir ar 18 Tachwedd 2020 er mwyn dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael a dylai’r rhai sydd â diddordeb gofrestru ar gyfer y Digwyddiad Briffio
Bydd y rhai a fydd yn bresennol yn clywed gan ymarferwyr profiadol o Innovate UK a Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag academyddion blaenllaw o Brifysgol Caerdydd, ein partneriaid darparu’r gronfa. Byddant yn cael cipolwg ar sut y gall cyrff y Sector Cyhoeddus fod yn gatalydd ar gyfer ysgogi Arloesedd a arweinir gan Her, ac yn bwysig, sut y gellir cael gafael ar becyn cymorth newydd Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas.
Mae Cronfa’r Her bellach ar agor ar gyfer datganiadau o ddiddordeb gan bob sefydliad sector cyhoeddus sy’n gweithredu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a gwahoddir yr holl rai sydd â diddordeb mewn ymgysylltu i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb (EOI). Gellir lawrlwytho’r rhain yma neu o dudalen we Cronfa Her y P-RC
Dylid anfon EOIs a gwblhawyd i flwch post Cronfa Her PRC ar CronfaHerPRC@caerdydd.ac.uk
Sylwer: Targedir y Digwyddiad Briffio at gynulleidfa’r Sector Cyhoeddus (darpar Berchnogion yr Her). Bydd cyfleoedd i fusnesau ymgysylltu â’r Gronfa Her yn dod yn ddiweddarach trwy sesiynau’r Gweithdy a galwadau yn y dyfodol i gynnig atebion i Heriau.
Bydd Gweithdai Datblygu Her yn cael eu cynnal ym mis Rhagfyr ‘20 a mis Ionawr ‘21 i ganiatáu cyfleoedd i sefydliadau weithio gyda Thîm Cronfa Her P-RC wrth ddatblygu heriau. Dilynwch ni ar Twitter i glywed am y cyfleoedd diweddaraf @aCapitalRegion
Bydd gofyn i bob darpar Berchennog Her gyflwyno ceisiadau llawn i CronfaHerPRC@caerdydd.ac.uk erbyn hanner dydd ddydd Gwener 12 Mawrth 2021.
Dyddiadau allweddol
Digwyddiad briffio y Sector Cyhoeddus (Cofrestru ar y Digwyddiad Ar-lein) Gweithdai Datblygu Her | 18 Tachwedd, 2020 Rhagfyr 2020 ac Ionawr ‘21 (i’w gadarnhau) |
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau llawn | Hanner dydd Ddydd Gwener 12 Mawrth 2021 |
Dyfarnu contractau Perchnogion Her | wythnos yn dechrau 29 Mawrth 2021 |
Lansiad Heriau ar gyfer ymgysylltu â’r diwydiant | Ebrill 2021 ymlaen |
Gall y dyddiadau amrywio*
|
Sylwer: Mae’n bosibl y caiff Heriau ymateb cyflym sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau Covid brys a lle y gellir gweithredu ar her yn gynt, eu hystyried a’u symud ymlaen yn gynharach na’r dyddiadau a gyhoeddwyd.
Cysylltu
Os oes gennych chi gwestiwn, cysylltwch â Thîm Cronfa Her PRC yn CronfaHerPRC@caerdydd i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan ein partneriaid yma.