Fel rhan o’n Rhaglen Partneriaid Buddsoddi PRC, rydym yn tynnu sylw at y sefydliadau sy’n gweithio gyda ni i helpu llunio dyfodol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Yn y cyfweliad hwn, rydym yn siarad â Bron Afon am ei rôl fel darparwr tai cymdeithasol a sefydliad sy’n canolbwyntio ar y gymuned, ei gynlluniau ar gyfer twf ac adfywio, a’r cyfleoedd mae’n eu gweld ar hyd a lled de-ddwyrain Cymru.
O ddatblygu cartrefi cymdeithasol newydd mewn awdurdodau lleol cyfagos i archwilio cyfleoedd adfywio uchelgeisiol yng Nghwmbrân, mae Bron Afon yn edrych ymlaen at gyfnod o dwf a chyfleoedd.
Rydym hefyd yn cael gwybod sut mae Rhaglen Partneriaid Buddsoddi PRC yn helpu Bron Afon i gryfhau perthnasoedd strategol, creu cysylltiadau newydd ac ymgysylltu â digwyddiadau a sgyrsiau allweddol ledled Cymru a thu hwnt.
Pwy yw Bron Afon?
Rydym yn fenter gymdeithasol nid-er-elw, yn landlord cymdeithasol cofrestredig ac yn sefydliad cydfuddiannol cymunedol, sy’n rheoli ac yn cynnal dros 8,100 o gartrefi ar draws Torfaen. Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dechrau datblygu cartrefi cymdeithasol newydd mewn bwrdeistrefi cyfagos, gan gynnwys Caerffili a Chasnewydd.
Wrth wraidd popeth a wnawn bob dydd mae ein hangerdd i ddarparu gwasanaethau rhagorol i’n cwsmeriaid, darparu cartrefi o ansawdd uchel a chefnogi pobl yn eu cymunedau. Ein gweledigaeth yw: “Mae pobl yn ymddiried ynom i helpu adeiladu cymunedau diogel a chryf lle mae gan bawb le maen nhw’n falch o’i alw’n gartref.”
Sut rydych chi’n gweld eich sefydliad yn tyfu / esblygu yn y flwyddyn nesaf?
Rydym eisoes wedi dechrau ymgynghori â chwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid ar gynllun corfforaethol newydd a fydd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer ein sefydliad o 2028-2033. Bydd gweithio gyda Tai Cymunedol Cymru i gwmpasu eu hymchwil i’r heriau cynyddol sy’n wynebu’r sector tai yn llywio ein cynllunio a bydd yn ein helpu i ddeall yn well y pwysau cronnus rydym yn eu gweld er mwyn cydbwyso bodloni anghenion cwsmeriaid, polisi, ffactorau rheoleiddio ac economaidd.
Byddwn yn parhau i dyfu ein darpariaeth o ddatblygiadau preswyl ychwanegol a chynlluniau adfywio. Mae adeiladu dyfodol o dwf, cyfle ac adfywio’n golygu y gallwn barhau i fuddsoddi mewn cartrefi newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli. Byddwn yn ehangu ein hystod o ddaliadaethau y tu hwnt i dai fforddiadwy yn unig, a fydd yn caniatáu inni ddatblygu safleoedd daliadaeth gymysg mwy ac o bosibl, safleoedd defnydd cymysg.
Rydym yn sefydliad sy’n cael ei yrru gan ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol ac yn bwriadu sicrhau bod y cartrefi safonol rydym yn eu hadeiladu yn chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac economaidd ledled Gwent.
Pam mae rhaglen bartneriaeth Buddsoddi yn bwysig i’ch sefydliad?
Mae rhaglen bartneriaeth Buddsoddi yn bwysig oherwydd ei bod yn ein helpu i gryfhau perthnasoedd strategol presennol, meithrin cysylltiadau newydd a datgloi mwy o gyfleoedd. Mae’n rhoi mynediad inni at gyllid ychwanegol trwy PRC a’i phartneriaid, gan ein galluogi i gymryd rhan mewn digwyddiadau mawr ledled Cymru ac yn genedlaethol. Mae hyn yn helpu i gyfoethogi ein gwybodaeth, ein dealltwriaeth a’n dylanwad ar faterion allweddol. Mae hefyd yn ein helpu i ddangos ein hymrwymiad i ehangu ein rhaglen ddatblygu ac yn cefnogi ein henw da fel darparwr tai allweddol ledled de-ddwyrain Cymru.
Ar ba brosiectau rydych chi’n gweithio ar hyn o bryd y gallwch eu rhannu – e.e. unrhyw ddatblygiadau newydd y gallwch sôn amdanynt?
Rydym yn y camau cynnar o weithio ar nifer o gyfleoedd y byddwn yn hapus i’w trafod gyda PRC unwaith y byddwn wedi gwneud cynnydd gyda nhw. Un o’n prosiectau mawr, rydym yn llawn cyffro yn ei gylch, yw’r posibilrwydd o adfywio Sgwâr Fairwater yng Nghwmbrân. Yn ddiweddar, rydym wedi sefydlu grŵp prosiect gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a rhanddeiliaid allweddol eraill i fwrw ymlaen ag adfywio’r ardal yn llwyr; rydym yn rhagweld datblygiad a fydd yn wirioneddol gymysg o ran mathau o ddeiliadaeth a defnyddiau.
A yw’r rhaglen bartneriaeth wedi rhoi cyfle i chi wneud cysylltiadau newydd?
Ydy, yn bendant! Trwy fynychu cinio arddangos PRC yn Llundain a chynhadledd UKREiiF, cawsom gyfle i gwrdd â chydweithwyr newydd a dechrau meithrin perthnasoedd â nhw a’u sefydliadau mewn cyfnod byr. Rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau yn y dyfodol i barhau i gryfhau’r perthnasoedd hyn.
Ym mha ddigwyddiadau blaenllaw rydych wedi ymuno â ni, a beth oedd eich profiad o’r digwyddiadau hynny?
Yn ogystal â’r digwyddiadau y soniwyd amdanynt eisoes, gwnaethom ymuno â chi yn nigwyddiad PRC yn Marchnad Casnewydd ar 2 Gorffennaf, lle cawsom gyfle i gwrdd â phartneriaid PRC a chydweithwyr penodol o PRC.
Sut olwg sydd ar y flwyddyn nesaf i Fron Afon?
Cyffrous iawn! Rydym yn ehangu ein rhaglen ddatblygu ac adfywio, yn datgloi cynlluniau allweddol, yn cryfhau’r cysylltiadau a sefydlwyd yn ddiweddar gyda PRC a’i phartneriaid, ac yn meithrin ein henw da fel partner blaenllaw yn y sector yn ne-ddwyrain Cymru. Amdani!
Mae cynlluniau Bron Afon yn tynnu sylw at y cyfleoedd a all ddeillio o ddod â thai, adfywio, buddsoddi a phartneriaethau rhanbarthol cryf ynghyd.
Wrth i’w raglen ddatblygu ac adfywio barhau i dyfu, mae’r sefydliad yn awyddus i adeiladu ar y berthynas a sefydlwyd trwy Raglen Partneriaid Buddsoddi PRC ac i chwarae rhan weithredol wrth greu cyfleoedd newydd ar draws de-ddwyrain Cymru.
Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Bron Afon, gan gefnogi ei uchelgeisiau a gweld sut y bydd y prosiectau hyn sy’n dod i’r amlwg yn datblygu dros y flwyddyn i ddod.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Bartner Buddsoddi PRC? Dysgwch fwy am y rhaglen a sut y gall eich sefydliad gymryd rhan.