Angerdd dros Adeiladu Llwyddiant Busnes

Categorïau:
Arwain Agweddau

Cyfweliad gyda Nigel Griffiths, Cadeirydd y Cyngor Busnes, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Ar ddiwedd 2020 penododd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Nigel Griffiths yn Gadeirydd y Cyngor Busnes, i weithio gyda’r Cabinet Rheoli Cyflyrau Cronig a’r Bartneriaeth Twf Economaidd i helpu i ganolbwyntio cymorth ymarferol a sbarduno gwelliannau mesuradwy i fusnesau ar draws y rhanbarth. 

Yn y cyntaf o ddau gyfweliad difyr, mae Nigel yn rhannu gyda ni ei brofiad o’i fywyd cynnar yng Nghwm Tawe – a’r gwersi a ddysgwyd mewn gyrfa ddisglair sydd wedi ei weld yn adeiladu, arwain a rhannu mentrau mewn llawer o sectorau, gan gynnwys Technoleg a Gwasanaethau Busnes…  

“Mewn sawl ffordd cefais y fagwraeth dosbarth gweithiol glasurol a rennir gan lawer o bobl fy nghenhedlaeth i – wedi ‘ngeni i deulu glofaol yng nghymuned glos Ynysmeudw, lle’r oedd fy rhieni, neiniau a theidiau a’m teulu ehangach yn meithrin pwysigrwydd gwaith caled ac ennill addysg dda. Roedd yn blentyndod hapus iawn, gan gynnwys Pythefnos rheolaidd y Glowyr ym Mae Trecco a Gala’r Glowyr yn y Pwll Du – ac ie, fe wnaethom adael y drysau ar agor yn Ynysmeudw, gan fynd i mewn ac allan o dai ei gilydd yn rheolaidd. Roedd yn lle cynnes a chefnogol a chymerodd fy nheulu fy hun lawer iawn o amser i roi’r pethau pwysig mewn bywyd i mi. Efallai nad oedd hynny wedi cynnwys gormod o eiddo materol, ond gallwn eisoes ddarllen ac ysgrifennu cyn i mi fynd i’r ysgol, diolch i’m Hewythr – dyn deallus iawn, a ddarllenai’r clasuron, a dreuliodd lawer iawn o amser gyda mi ar ôl dioddef straen wedi trawma o gymryd rhan yng Nglaniadau Normandi. “

“Pwysigrwydd gwaith caled ac addysg”

“Fe wnaeth fy rhieni a’m neiniau a theidiau roi ein haddysg yn gyntaf, penderfynu na fyddai eu plant yn mynd o dan y ddaear – ac rwy’n ddiolchgar fy mod i, o’r 380 o blant yn fy mlwyddyn ysgol, yn un o’r 16 a lwyddodd i gyrraedd y Brifysgol. Roedd arwyddocâd yr un newid hwnnw wedi taro tant â mi pan gefais dreulio un diwrnod yn y pwll fel rhan o archwiliad. Cerdded o amgylch y pwll oedd y diwrnod mwyaf blinedig o waith dwi erioed wedi’i wneud!

“Lwc yn ogystal â barn”

“Mae pobl yn tynnu sylw at y ffaith fy mod wedi cael gyrfa fusnes lwyddiannus yn gwneud llawer o wahanol bethau mewn gwahanol sectorau, ond i mi rwy’n credu ei fod wedi cymryd mwy na rhywfaint o lwc a mentergarwch. Fe wnes i radd yn y Gyfraith ond doeddwn i ddim wir eisiau bod yn gyfreithiwr. Am gyfnod roedd gen i ddiddordeb mewn ymuno â’r RAF, gan gyrraedd y cam Dewis Swyddogion, yna penderfynais nad oedd hynny i mi, felly ymunais â Chyllid y Wlad ond roeddwn i’n gwybod o fewn wythnos fy mod wedi gwneud y penderfyniad anghywir. Doedd e fawr o gynllun gyrfa! Arhosais tan y mis Medi canlynol i ymuno ag Ernst & Whinney (sef EY bellach) a dyna lle dechreuodd fy ngyrfa mewn gwirionedd. Roedd Ernst & Whinney yn llawn o bobl eithriadol, cyflogwr clasurol Rhydgrawnt. Fi oedd y graddedigyn Polytechnig cyntaf yr oeddent wedi’i gyflogi – cefais wybod yn ddiweddarach eu bod yn credu bod gennyf fwy o hyder na’r lleill oherwydd fy amser yng Nghyllid y Wlad – ac yr oeddwn yn teimlo’n wirioneddol fod y rhan fwyaf o’r bobl yno’n llawer mwy medrus na mi. Ond roeddwn wedi cymryd toriad cyflog o 50% i adael CyW, roedd gennyf forgais i dalu erbyn hyn, felly ni allwn fforddio methu.

“Roedd gen i sgil yn sydyn – a gwahanydd”

“Fe wnes i basio fy arholiadau ar y tro cyntaf, cael fy nyrchafu’n eithaf cyflym – ac yna fe ges i bach o lwc. Chwaraeais wyddbwyll ar y pryd a thrwy siawns bur, dangosodd ffrind i’r teulu i mi sut i chwarae ar gyfrifiadur gyriant hyblyg IBM. Roedd yn rhaid i mi fformatio disg i wneud hynny a’r diwrnod canlynol yn y gwaith gofynnodd fy Uwch Bartner a oedd unrhyw un yn gwybod sut i fformatio disg hyblyg. Dywedais fy mod wedi gwneud – a fi oedd arbenigwr TG y tîm ar unwaith. Deallais yn gyflym mai dyma’r cyfle i greu gwahanydd i mi fy hun, felly dechreuais gael fy mhen o gwmpas pethau fel prosesu geiriau a thaenlenni, ymhell cyn dyddiau Microsoft.

“Roeddwn i’n gwybod bod gen i sgil – math gwahanol o sgil – a thaw dyma’r adeg berffaith i’w chael.  Yn ystod fy nghontract hyfforddi tair blynedd newidiodd y dull ar gyfer darparu arferion cyfrifyddu yn llwyr mewn cyfnod byr iawn: ym mlwyddyn un roedd gennym un cyfrifiadur yn y swyddfa a thîm mawr o deipwyr; 3 blynedd yn ddiweddarach, roedd gan bawb gyfrifiadur personol ac nid oedd unrhyw deipwyr. Sylweddolais fod arian i’w wneud yn y “rhuthr aur” TG hwn a chael fy hun yn y tîm Ymgynghori Rheoli, gan helpu cleientiaid i ddewis systemau TG, a oedd yn hwyl dda gan ei fod yn golygu procio’ch trwyn i bob rhan o’u busnes ac nid dim ond y darn Cyllid. Dysgais y cysyniad o Broses Fusnes ac mae hynny wedi bod yn greiddiol yn fy ngyrfa ddilynol.

“Mae’r cysyniad o Broses Fusnes wedi bod yn greiddiol i’m gyrfa”

“Ar ôl i mi gymhwyso, gweithiais i ddyn hynod o’r enw Ieaun Griffiths, a ddaeth yn PSC y DVLA yn ddiweddarach – a nododd fod angen rhywfaint o brofiad byd go iawn arnaf. Yr oeddwn yn chwarae rygbi gyda boi ym maes recriwtio a oedd â swydd ar gael mewn busnes o’r enw Catnic, y cwmni cynnyrch adeiladu dur sydd bellach yn eiddo i Corus, ac yna’n eiddo i RTZ. Yr oeddent yn bwriadu cyflwyno system newydd, a dywedodd fy ffrind i’m tîm rygbi y byddai’n berffaith i mi. Roedd yn iawn – fe wnes i enw i mi fy hun yno, gan gyflwyno’r TG, a oedd yn wych gan ei fod yn mynd â mi allan o Gyllid ac wedi cael lle i mi ar y tîm TQM – gan ddefnyddio cysyniadau damcaniaethol effeithlonrwydd, rheoli prosesau, rheoli prosesau ystadegol, gweithgynhyrchu darbodus a’r holl ddulliau eraill a oedd wedi’u hanelu at wella. Mwynheais hynny i gyd yn fawr, gan weithio ar brosiectau ymarferol gydag oedolion a oedd wedi bod yno a’i wneud, gwrando ar sut yr oeddent wedi delio â phethau fel rhedeg llawr y siop neu ddatrys anghydfodau cyflog. Roedd yn brofiad gwych i ddyn ifanc fel fi – ac aeth o dda i well. Roedd y cwmni’n ehangu’n gyflym, gan gynnwys cymryd rhan mewn adeiladu prosiectau ar ôl ail-uno’r Almaen – lle gofynnwyd i mi sefydlu busnes o’r newydd. Roedd yr Almaen yn brofiad gwych, lle dysgais sut i lunio tîm, llunio’r cynnyrch, gweithio allan cynnig y farchnad a delio â diwylliant gwahanol (yn yr Almaen er enghraifft, ychydig iawn o sylw sydd ganddynt i ddeunydd pacio, maent yn ei ystyried yn ddiangen ac yn wastraffus, ond yma yn y DU rydym yn tueddu i gael popeth wedi’i becynnu a’i frandio’n hyfryd).

“Dysgais sut i adeiladu tîm, siapio cynnyrch, creu cynnig”

“Roedd Catnic yn bleser, ond yna cysylltodd fy hen fêt rygbi a recriwtio â mi a dweud wrthyf fod BBC Cymru yn bwriadu creu Is-adran Fasnachol newydd – ac a fyddai gennyf ddiddordeb mewn rhoi’r system newydd i mewn i wneud y BBC yn fwy masnachol? Roedd yn swnio fel llawer o hwyl ac roeddwn i’n gwybod y byddai’n gwneud fy mam-gu yn falch o ddweud fy mod i’n gweithio yn y BBC – ac roedd yn gyfnod gwych, gan roi cynnyrch Sage cyfoes o’r enw Tetra ar waith, gan weithio gyda thîm gwych a oedd yn cynnwys pennaeth eithriadol o’r enw Jim Brown a aeth ymlaen i redeg y Ganolfan Deledu; a Tim Griffin a symudodd ymlaen i redeg Dell yn y DU/Iwerddon yn ogystal â chael Uwch rolau yn Asia Pacific, mae bellach yn Rheolwr Gyfarwyddwr DCC Technology. Yn y BBC dysgais nad yw bod yn arweinydd yn ymwneud â bod yn ‘Fos’, ond yn hytrach â chaniatáu i dîm lwyddo, gan roi’r amodau a’r amgylchedd cywir i bobl ddangos yr hyn y gallant ei wneud. Roedd yn brofiad anhygoel – ac yna chwaraeodd ffawd ei rhan eto…

“Roedd fy rôl yn cael ei rhoi ar gontract allanol ac nid oedd gennyf ddiddordeb mewn mynd gyda hi. Dechreuais chwilio am gyfleoedd eraill a siaradais â’r dyn a oedd yn rhedeg y busnes Sage Enterprise yr oeddem wedi comisiynu system y BBC ohono. Gofynnodd a oedd gennyf ddiddordeb mewn rhedeg ei dîm Gwasanaethau Proffesiynol â 200 aelod o staff. Dywedais na, ac y byddai’n well gennyf reoli pethau fy hun. Felly cynigiodd ddeliwraeth i mi. Ces i’r peth ar blât. A daeth hynny’n Fifth Dimension Systems.

“Mynd o ddim i 100 o bobl, dyblu o ran maint bob chwe mis, gan daro trosiant o £10 miliwn mewn pedair blynedd” 

“Unwaith eto, roedd y cyfan yn fater o ddigwydd, cysylltais â Geoff Thomas, fy hen gydweithiwr EY, i ymuno â mi ac – fel maen nhw’n ei ddweud heddiw – wnaethon ni ei chwalu, drwy gymryd yr hyn sy’n ymddangos yn benderfyniad ysbrydoledig a phroffwydol ond mewn gwirionedd a oedd yn lwc dda: penderfynwyd cefnogi’r cynnyrch Microsoft cyntaf un a osodwyd yn ein marchnad. Ni fyddai’r un o’n cystadleuwyr technolegol yn ei gyffwrdd am nad oedd yn gweithio, ond fel cyfrifwyr nid oeddem yn gwybod hynny; ac erbyn i ni ddechrau gwerthu’r feddalwedd, roedd Bill Gates wedi datrys y problemau ac yn sydyn ffrwydrodd bopeth, gan arloesi rhaglenni Microsoft yn y DU. Ein cytundeb cyntaf oedd contract hanner miliwn o bunnoedd ac o’r fan honno gwnaethom ddyblu o ran maint bob 6 mis, gan fynd o ddim i 100 o bobl yn gyflym iawn, o ddechrau gyda ffôn a gliniadur i drosiant o £10 miliwn mewn 5 mlynedd. Roedd yn ddiwydiant newydd sbon nad oedd hyd yn oed yn bodoli pan raddiais ac oherwydd nad oedd gennym unrhyw gysyniad o fethiant, roeddem yn rhedeg cwmni TG canol marchnad fel cwmni gwasanaethau proffesiynol – ac roedd yn gweithio. Fe wnaethom gefnogi ein hunain, roeddem yn ddewr, gwnaethom gaffaeliadau na allem eu fforddio mewn gwirionedd – ac mewn ffordd, i ddau gyfrifydd, gwnaethom bopeth o’i le: peidio â phoeni am risgiau, peidio ag edrych ar unrhyw anfanteision. A dyna’r hyn sydd ei angen wrth fentro yn y pen draw – dewrder. Rhoddais y gorau i gyflog da iawn yn y BBC oherwydd gallwn weld a theimlo’r cyfle. Roeddwn yn ffodus fy mod wedi bod yn agored i sector newydd anhygoel yn gynharach na’r rhan fwyaf – a sylweddolais pe byddwn yn lapio hynny gyda’r cysyniadau meddwl darbodus, sero-ddiffygiol, cywir y tro cyntaf y byddwn wedi’u rhoi ar waith mewn ymgynghoriaeth, y gallwn gefnogi fy hun. Tipyn o lwc, tipyn o farn, bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn – a bod yn barod i wneud y naid honno.

“Mae pob cwmni yn wahanol – ac mae pob entrepreneur yn ddewr

“Mae pob menter yn unigryw ac roedd y cwmni olaf i mi helpu i ei redeg a’i ddiosg – Certus – yn stori wahanol gyda diweddglo yr un mor hapus. Darparodd Certus y cymorth TG ar gyfer FD Systems ac roedd gan Paul y perchennog uchelgeisiau i ddatblygu’r cwmni. Nid oedd ei bartner yn rhannu’r uchelgais hwnnw, felly prynais i mewn i’r cwmni a gadawodd partner Paul, yna fe wnaethom ei godi ychydig o lefelau drwy wasanaethu cwsmeriaid mwy mewn marchnadoedd mwy y tu hwnt i Gymru. Es i mewn i Certus gyda dim ond un uchelgais – i’w werthu – a gwelais y nod hwnnw fel fy swydd, gan ei gyflawni ym mis Chwefror 2019.

“Gwersi a ddysgwyd hyd yn hyn ar hyd y ffordd?  Yn bennaf oll, cael nod terfynol. Yn fy nghwmni cyntaf, nid oedd gennyf unrhyw nod terfynol mewn golwg; ac wrth i mi fynd yn hŷn sylweddolais y dylai pob busnes ei gael – hyd yn oed os nad ydych yn gwerthu, mae’n gwneud i chi redeg eich busnes yn y ffordd orau bosibl. Gweithiwch allan strategaeth i lwyddo a chael y bobl iawn o’ch cwmpas i wneud i’r cynllun hwnnw weithio. Mae’r ail wers yn rhywbeth y mae entrepreneuriaid yn tueddu i beidio â siarad amdano: pwysigrwydd cael a meithrin eich dewrder emosiynol eich hun yn barhaus. Gall entrepreneuriaid ofni methiant yn fwy na dim; a gall hynny fod yn ffordd o lwyddo. A gwers olaf sy’n bersonol iawn: Rwyf wedi dysgu dros y 30 mlynedd diwethaf fy mod yn mwynhau helpu busnesau sydd â photensial i wneud hyd yn oed yn well nag y gallent ddychmygu. Mae hynny’n bleserus iawn i mi – ac mae gwneud i hynny ddigwydd yn rhan enfawr o’m ffocws ar gyfer y blynyddoedd nesaf fel Cadeirydd Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.”

Rhannu:

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin

Newyddion Cysylltiedig

Mae'r symudiad tuag at Economi Werdd, sy'n gosod targed o ddim allyriadau erbyn 2050, yn newid y ffordd y mae pobl yn gweithio ac yn byw yn gyflym ledled y DU. Gan fod angen cyflawni canran sylweddol o ddatgarboneiddio erbyn diwedd y degawd hwn, bydd cyflymder y trawsnewid yn aruthrol i bawb ac o bosibl yn ddryslyd i lawer. Mae Leigh Hughes, Cyfarwyddwr CSR Bouygues Construction yn y DU a Chadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Prifddinas-ranbarth Caerdydd (P-RC), yn poeni y gallai maint y newid ddrysu pobl a golygu ein bod yn colli'r cyfleoedd sydd o'n blaenau, ar gyfer sgiliau a bywyd yn gyffredinol.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r profiad gorau ichi fel defnyddiwr. Os dewiswch barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.