Bydd prosiect Metro Plus Cyffordd Twnnel Hafren sydd ar y gweill gan Gyngor Sir Fynwy yn creu maes parcio ychwanegol gyda 150-200 o leoedd ar ochr y de, yn ogystal ag uwchraddio’r maes parcio presennol i gynnwys mannau parcio ychwanegol ar gyfer beiciau, mannau diogel i gerdded a mynediad i feiciau. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys cyfnewidfa rheilffordd bws wedi’i huwchraddio, mannau gwefru EV a chyfleusterau adeilad gorsaf gwell.
I gael gwybod mwy, buom yn holi Jane Pratt, Cynghorydd Sir Fynwy ac Aelod o’r Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth.
“Rydym yn adeiladu maes parcio a gyda lle i 300 o geir, a bydd gennym hefyd fannau gwefru cerbydau trydan a mannau lle bydd pobl yn gallu gadael eu beiciau. Yr hyn yr ydym am ei wneud yw annog teithwyr i feicio i Gyffordd Twnnel Hafren neu deithio ar y bws, ac wedyn teithio ar y trên. Y nod yw annog pobl i beidio â defnyddio eu car i leihau ein hôl troed carbon.”
Fel rhan o gynllun y Cyngor, mae mynediad haws, yn enwedig ar gyfer bysiau oddi ar yr M48, yn bwysig iawn.
“Rydym yn mynd i adeiladu ffordd newydd gan roi blaenoriaeth i wasanaethau bws Cas-gwent a Sir Fynwy, gyda chyfnewidfa a chyfleusterau cyhoeddus defnydd cymysg. Yr hyn fydd yn allweddol i lwyddiant y prosiect yw’r ffaith y gall pobl gael gwasanaethau rheolaidd, gan wybod na fydd yn rhaid iddyn nhw aros am hydoedd am drên.”