Arloesi ar Waith – Arloeswyr Ifanc – Abbie Lawrence

Categorรฏau:

Creu mewnwelediad cwsmeriaid o’r radd flaenaf i economiโ€™r BBaCh

Gyda mwy o bobl ifanc nag erioed yn dechrau busnes yn y DU, roedd yn wych gweld pedwar Entrepreneur ifanc o Gymru yn cael eu cyhoeddi fel enillwyr eleni yng Ngwobrau Arloeswyr Ifanc – rhaglen Innovate UK ar gyfer pobl ifanc 18 i 30 oed sy’n cael ei chyd-ariannu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a’u cefnogi’n llawn gan ganolfan Sgiliau a Thalent Venture.

Mae Abbie Lawrence, Beren Kayali, Christian Berger a Matthew Richmond wedi ennill Gwobr Arloeswr Ifanc am eu prosiectau busnes newydd dyfeisgar – gyda’r enillwyr hyn o Gymru yn ymuno รข 59 o bobl ifanc eraill sy’n awyddus i newid y byd drwy eu datblygiadau arloesol.

Fel rhan o’n hymgyrch #InnovationInAction, rydym yn darparu llwyfan i bob un o’r entrepreneuriaid eithriadol yna, gan dynnu sylw at eu pwysigrwydd fel y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr a dylanwadwyr – gan ddathlu’r safbwyntiau newydd y maent yn eu cyflwyno wrth greu cynhyrchion a gwasanaethau sy’n wirioneddol newid ein byd.

Fe ddechreuwn ar eu straeon drwy ddarganfod mwy am y llwybr arloesol a gymerwyd gan Abbie Lawrence ….

 

Creu amgylchedd ffug sy’n newid y byd sy’n deall dewisiadau defnyddwyr

Pan dderbyniodd Abbie e-bost gan y Gwobrau Arloeswyr Ifanc a darllen y gair cyntaf – ‘Llongyfarchiadau’ – newidiodd ei byd (fel y bydd yn newid byd busnesau bach a chanolig di-rif). “Fe wnes i wichian, sgrechian, ac yna fe alwais fy mam mewn dagrau.” Roedd yr emosiwn yn fwy na dealladwy.ย  Roedd syniadau ac uchelgais Abbie wedi mynd รข hi i lawer o wahanol ysgolion a gwledydd, cyn graddio yn San Francisco ac o’r diwedd canfod cartref i’w dyfeisgarwch yma yng Nghymru.

Roedd gweld y daith honno’n cael ei chydnabod fel enillydd yn y categori Gwybodaeth a Thechnoleg Cyfathrebu yn y gwobrau o fri yma yn dyst i ddyfalbarhad cynhenid Abbie – a chred ddofn ym mhwysigrwydd ei dyfais newydd.

Ac am ddyfais newydd Mae Labordy Mewnwelediadau Defnyddwyr Abbie yn helpu cwmnรฏau bach a chanolig i gynyddu gwerthiant drwy ddarparu mynediad i efelychiad lle gallant adnabod arferion prynu cwsmeriaid mewn sefyllfa drochi gorfforol ffug o’u profiad siopa.

Mae’n rhoi’r gallu na ellir ei ddychmygu hyd yma i fusnesau bach a chanolig Cymru (a’r byd) ddeall ‘Pam’ a ‘Sut’ o ran ymddygiad cwsmeriaid – gan ennill mantais hanfodol yn y farchnad drwy lefel o fewnwelediad sy’n draddodiadol yn eiddo i gorfforaethau mawr sy’n gallu gwario symiau saith ffigur ar ddefnyddio’r sianeli ymchwil mwyaf soffistigedig i ddeall penderfyniadau prynu eu cwsmeriaid.

<img class=”alignnone wp-image-16089″ src=”https://www.cardiffcapitalregion.wales/wp-content/uploads/2022/04/picture2-300×225.jpg” alt=”” width=”600″ height=”450″ />

Datblygu, profi, masnacheiddio, newid y gรชm …

Mae Abbie wedi datblygu, profi a dilysu’r amgylchedd efelychu newydd hwn yn ystod ei PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd โ€“ gan baratoi ystafell fawr wedi’i duo gyda sgrin lapio a seinwedd at ddefnydd masnachol. ย Mae’n gyfleuster hyblyg iawn lle gellir rheoli goleuadau, llif aer a thymheredd, gan alluogi i bropiau gael eu hychwanegu ac actorion i gymryd rhan mewn realiti uwch.ย  Mae’r system yn caniatรกu i ffrydiau lluosog o ddata gael eu casglu, wedi’u hategu gan dracio llygaid mewn amser go iawn i ddeall dewisiadau prynwyr. Cyflawniad eithaf syfrdanol – a tharfwr mawr posib ar y diwydiant, gan ddatgan oes newydd ar ddod lle gall cwmnรฏau o bob maint gael mewnwelediad ar lefel corfforaeth gan ddefnyddio amgylchedd efelychiadol.

“Fy angerdd pennaf erioed fu cynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd” esbonia Abbie “a chyda gradd mewn Cyfathrebu Graffig, roeddwn am beri newid drwy ddysgu sut i gyfathrebu gwybodaeth gymhleth i lawer o wahanol bobl. Yna daeth cyfle PhD i helpu busnesau bach yng Nghymru i wella eu gwerthiant drwy ddeunydd pacio.ย  Roeddwn i’n ei weld fel cyfle i greu cae chwarae gwastad, ail-gydbwyso’r economi a rhoi cyfle i gwmnรฏau llai eu maint gystadlu.”

“Cadarnhaodd cyswllt gan arweinydd byd-eang sefydledig mewn mewnwelediadau defnyddwyr fod gofod enfawr ar draws yr economi BBaCh โ€“ felly rydym wedi canolbwyntio ar greu cyfleuster amlbwrpas iawn sy’n gwbl addasadwy i unrhyw ddiwydiant, gan roi mewnwelediadau ymarferol i wella unrhyw frand neu ddeunydd pacio; ac rydym wedi cwblhau ein hail brosiect masnachol yn ddiweddar, sydd wedi bod yn brofiad aruthrol.”

<img class=”alignnone wp-image-16091″ src=”https://www.cardiffcapitalregion.wales/wp-content/uploads/2022/04/picture1-300×200.jpg” alt=”” width=”599″ height=”399″ />

“Hyd y gwn i does neb arall fel ni yn y DU, felly rydyn ni’n archwilio sut i ddarparu cyfleusterau symudol a fyddai’n ein galluogi i redeg sawl prosiect sy’n gweithio gyda nifer o gynulleidfaoedd targed ar yr un pryd.”

 

Y wers hollbwysig o ddysgu i ofyn am helpย 

Gyda chymaint wedi’i gyflawni mewn cyfnod mor fyr, mae Abbie yn awyddus i ddiolch i’r Rhaglen Arloeswyr Ifanc a llawer o rai eraill sydd wedi ei helpu ar y daith hyd yma:ย  “Mae Canolfan Entrepreneuriaeth Met Caerdydd, Gwobrau Prifysgol Santander X, Sbardun Nat West a’r tรฎm gwych yn Design Dough ym Mae Caerdydd oll wedi bod yn allweddol i’m helpu i gael y busnes i’r man lle mae heddiw.

“Diolch i’r Rhaglen rwyf wedi dod i werthfawrogi’n llawn bwysigrwydd gofyn am help.ย  Mae hynny’n rhywbeth yr oeddwn yn ei chael yn anodd o’r blaen. Mae dysgu gofyn am gyngor, cymorth a chefnogaeth wedi newid llwybr fy hun a’r busnes yn llwyr โ€“ ac mae cefnogaeth ariannol y Rhaglen hefyd wedi bod yn amhrisiadwy, gan ganiatรกu i mi ganolbwyntio fy holl ymdrechion ar dyfu’r fenter.

“Mae llawer i’w wneud o hyd a hoffwn adeiladu’r tรฎm fel bod hyn yn hunangynhaliol, gan ddod รข phobl o wahanol sgiliau sy’n rhannu’r weledigaeth i mewn.ย  Mae bwlch hefyd mewn data ar gyfer prynu ar-lein – sut mae cwsmeriaid yn rhyngweithio รข’r pecynnu pan gaiff ei ddosbarthu i’w cartrefi โ€“ ac mae hynny’n ffocws arall yr hoffwn ei archwilio.”

“Ond ar hyn o bryd, rwyf am fynd รข Consumer Insight Lab cyn belled ag y gall fynd, gan helpu cwmnรฏau llai i fynd mor bell ag y gallant fynd.”

www.consumerinsightslab.com

Rydym yn edrych ymlaen at wylio cynnydd Abbie a’i menter ryfeddol wrth iddi chwyldroi’r economi BBaCh – ac os hoffech wybod am y Gwobrau Arloeswyr Ifanc a’n henillwyr Cymreig hynod eraill, ewch i https://www.venturewales.org/cy/

 

#InnovationInAction

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) newydd groesawu a chynnal tรฎm Twf Rhanbarthol Connected Places Catapult yn ei swyddfeydd Sbarc yng Nghaerdydd, gan gryfhauโ€™i phartneriaeth strategol gyda sbardunwr arloesiโ€™r Deyrnas Unedig ar gyfer trafnidiaeth, yr amgylchedd adeiledig, dinasoedd a thwf lleol.ย ย 

Subscribe for updates

Skip to content