Arloesi ar Waith – Arloeswyr Ifanc – Matthew Richmond

Categorïau:

Mesur ymwybyddiaeth ofalgar a chynorthwyo â lles – gydag Ap

Wedi’i sefydlu yn 2017 gan Innovate UK ac Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru i feithrin ein cenhedlaeth nesaf o arbenigwyr a dylanwadwyr, mae’r Rhaglen Arloeswyr Ifanc yn rhoi cymorth a allai newid bywydau i ddarpar entrepreneuriaid. Cynigir y cymorth hwn ar ffurf £5k o arian parod, lwfans byw a phecyn cymorth busnes blwyddyn o hyd wedi’i deilwra i anghenion penodol.

Eleni roedd Gwobrau’r Arloeswyr Ifanc yn cynnwys pedwar o ‘Enillwyr Cymreig’ – ac yn y rhan olaf hon o’n cyfres Arloeswr Ifanc bresennol, rydym yn tynnu sylw at ddyfeisgarwch ac ysbryd entrepreneuraidd Matthew Richmond, sydd wedi creu ap ymwybyddiaeth ofalgar unigryw – Hippocamp – sy’n seiliedig ar ei brofiad ei hun wrth ei chael hi’n anodd dod o hyd i unrhyw beth i’w helpu i ganolbwyntio…

 

Meddalwedd sy’n helpu i chwilio am gydbwysedd

Mae ap unigryw Matthew sy’n seiliedig ar danysgrifiad yn cofnodi anadl y defnyddiwr ac yn cynnig dadansoddiad o dueddiadau ei gylchoedd anadlu – gan ei helpu i ddeall ei ymwybyddiaeth ofalgar ei hun a meithrin sgiliau myfyrio effeithiol. Ond beth ysbrydolodd Matthew i adeiladu’r ap sydd eisoes wedi ennill gwobr  iddo yng nghategori Iechyd y Gwobrau Arloeswyr Ifanc?

“Ro’n i wedi dechrau defnyddio apiau ymwybyddiaeth ofalgar fy hun mewn ymdrech i gael ymdeimlad o lonyddwch” esbonia Matthew “ond ro’n i’n teimlo bod y sgriptiau parod a ddefnyddir ganddynt braidd yn oer ac amhersonol. Yn hytrach na chynnig ffocws, roeddent yn aml yn tynnu eich sylw.”

Dyna pryd y gwnaeth y myfyriwr graddedig mewn mathemateg ariannol o Brifysgol Caerdydd feddwl am y syniad am fath ‘gwahanol iawn’ o ap ymwybyddiaeth ofalgar.  “Mae Hippocamp yn cofnodi eich anadl wrth i chi fyfyrio ac yn cynnig dadansoddiad amser real o’ch cylch anadlu a’i dueddiadau.  Felly mae’n eich helpu i ddeall a gwneud y gorau o’ch myfyrdod.”

“Roedd y pan demig yn heriol i bob un ohonom a chafodd effaith ar les pawb” meddai Matthew.  “I mi’n bersonol, cafodd methu chwarae lacrosse a gweld fy ffrindiau effaith go iawn arnaf – ac fel myfyriwr mathemateg roeddwn i’n sicr yn deall pwysigrwydd o sicrhau cydbwysedd yn eich bywyd. Mae myfyrio yn bwysig i mi o ran sicrhau’r cydbwysedd hwnnw, fel y mae i filiynau o bobl eraill.  Os bydd Hippocamp yn helpu pobl i sicrhau cydbwysedd, byddaf wedi cyrraedd fy nod. Dyna pam rwy’n angerddol dros sicrhau bod yr ap ar gael drwy fodel tanysgrifio fforddiadwy, fel y gall gael yr effaith gadarnhaol fwyaf posibl.”

 

Rhaglen wedi’i hadeiladu ar gymorth a chwmnïaeth.

 Hippocamp ar y cam datblygu cynnyrch a Matthew yn gweithio gyda phartner i helpu i ddatblygu’r feddalwedd briodol ar gyfer yr ap chwalu straen hwn, pa gyngor y byddai’n ei roi i unrhyw arloeswyr eraill sydd â syniad y maent yn credu y gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol?

“Mae’n ddigon hawdd dweud ‘ewch amdani’ – ac wrth gwrs y dylech chi – ond ceisiwch gael cymaint o gefnogaeth a help ag y gallwch, ar bob lefel. Deuthum ar draws y rhaglen Arloeswyr Ifanc bythefnos yn unig cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau – a threuliais bob nos yn gweithio ar fy nghais gyda fy ffrindiau a’m teulu. Roedd eu cymorth a’u hanogaeth, bryd hynny ac yn awr yn hollbwysig i mi.

“Ar ôl i chi ymuno â’r rhaglen, byddwch yn mwynhau’r mentora a’r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen arnoch – ac i mi, mae’n debyg mai cwrdd â dwsinau o arloeswyr eraill, pob un â’u gweledigaeth eu hunain ond i gyd yn rhannu’r un ymrwymiad, fu’r cymorth mwyaf.  Mae wedi dangos i mi ein bod i gyd yn ‘brosiectau ar waith’ – ac rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r persbectif hwnnw i ddysgu mwy am lunio busnes a bod yr arweinydd gorau y gallaf fod.”

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn falch o gyflwyno Rhaglen sy’n cael ei chyd-ariannu gan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’i chefnogi’n llawn gan hyb Talent a Sgiliau Venture – gan ddathlu gwobrau sy’n cydnabod cyflawniad rhagorol a phwysigrwydd arloeswyr ifanc fel modelau rôl perthnasol sy’n creu manteision economaidd a chymdeithasol drwy arloesi – i gyd â’r nod o greu cymdeithas decach, fwy gwydn a mwy cynhyrchiol. 

 

Rydym yn edrych ymlaen at wylio’r cam nesaf yn hanes twf  Matthew a Hippocamp oherwydd gyda’i gilydd maent yn helpu lles Cymru a’r byd ehangach – ac os hoffech wybod am y Gwobrau Arloeswyr Ifanc a gweddill ein henillwyr Cymraeg rhyfeddol, ewch iwww.venturewales.org       

 

#ArloeseddArWaith

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Subscribe for updates

Skip to content