Mewn oes o drawsnewid helaeth a newid cymhleth, efallai y byddai’n swnio braidd yn or-syml i roi i un gair y pŵer hollgynhwysol o fod yn ‘allweddol i’n llwyddiant yn y dyfodol’.
Ond dyna’n union beth yw ‘Arloesi‘.
Yr ocsigen sy’n anadlu einioes i bob llwyddiant a wneir ar hyd a lled Prifddinas-ranbarth Caerdydd ydyw.
Y llinyn sy’n tynnu ac yn gwthio’r holl gynnydd sy’n cael ei gyflawni yn ein rhanbarth ydyw – o dargedu ein gweithgarwch buddsoddi ac ail-lunio ein seilwaith, i’r weledigaeth sy’n trawsnewid ein trafnidiaeth, y cydweithrediadau sy’n cryfhau ein fframwaith sgiliau, a’r ysbryd arloesol sy’n meithrin ein sectorau blaenoriaeth.
Mae’n optimeiddio’r broses ddigideiddio ac yn gyrru datgarboneiddio ar draws ein rhanbarth – gan fynd â ni’n nes at gyflawni’r cysylltedd sydd ei angen arnom, y cynaliadwyedd sy’n hanfodol i ni a’r cynhwysiant economaidd-gymdeithasol rydyn ni’n ei ddyheu.
Mae’n newid ein strategaeth yn llwyr, gan sbarduno syniadau a thechnolegau newydd sy’n cynyddu cynhyrchiant ac yn creu mwy o werth – heb ddefnyddio mwy o adnoddau (ond, yn ddelfrydol, gan ddefnyddio llai).
Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, mae #ArloesiArWaith Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn arddangos y dyfeisgarwch a’r dyfeisiadau helaeth sy’n trawsnewid ein rhanbarth. Ac rydym yn dechrau trwy ddangos natur hanfodol arloesi i economïau modern – gan ddarganfod pam mae’r gwelliannau cynyddrannol hynod arloesol ac ysbrydoledig yn arbennig o hanfodol i gyflawni’r uchelgeisiau sydd gennym, yma yn Ne-ddwyrain Cymru …
Sut mae Arloesi yn ysgogi ein heconomi ac yn llunio ein cymdeithas
Yn y byd sydd ohoni, yr economïau, y cymunedau, y busnesau a’r sefydliadau mwyaf llwyddiannus yw’r rheini sydd â’r lefelau uchaf o arloesi.
Ac mae hynny’n ffaith.
Mae’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg wedi dangos bod cwmni sy’n buddsoddi mewn arloesi yn cael elw cyfartalog o £1.70 ar bob £1 sy’n cael ei gwario.
Cyhoeddodd Prifysgol Stanford yn yr Unol Daleithiau adroddiad yn ddiweddar yn manylu ar sut mae arloesi’n gyfrifol am hyd at 85% o’r holl dwf yn yr economïau datblygedig.
Mae’r cyfuniad o dechnoleg a gwneud penderfyniadau a yrrir gan ddata sy’n datblygu ar hyn o bryd yn golygu ein bod bellach yn gwybod sut i wella – a’i gwella’n barhaus – ein darpariaeth gwasanaethau gofal iechyd a’r sector cyhoeddus, ein cynhyrchiant yn y gweithle, ein hôl troed carbon a’n cynaliadwyedd, ein cydweithrediad a’n cysylltedd, ein perfformiad busnes, ein lles cyffredinol, a chymaint mwy.
Arloesi yw’r allwedd i gyflawni llawer o welliannau mawr a bach ym mhob un o’r meysydd hynny, gan ein galluogi i droi ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy wedi’i hadeiladu ar economi gadarn yn realiti a fwynheir gan bawb yn ein rhanbarth.
Ond sut mae mesur ‘Arloesi’ ar waith? Mae i’w weld ym mhobman o’n cwmpas, sy’n gallu ei gwneud yn anodd ei gategoreiddio, gan ei fod yn cwmpasu popeth o’r adegau ‘Eureka’ prin hynny fel datblygu brechlyn sy’n newid y byd, i’r mân addasiadau graddol di-rif sy’n digwydd ar daith ddiddiwedd o wella a mireinio.
Mae ‘Arloesi’, ynghyd â Chysylltedd, Cynaliadwyedd a Chynhwysiant, yn un o bileri allweddol Prifddinas-ranbarth Caerdydd. I ni, mae’n cael ei nodweddu gan yr agwedd chwilfrydig, yr awydd am gydweithredu a’r dewrder i groesawu arferion blaengar sy’n sicrhau manteision newydd ac ehangach.
Gallai hynny ddangos ei hun fel ffordd newydd o weithio, gwelliant i broses, defnydd newydd, ateb unigryw, cam mawr ymlaen, neu’r datblygiad cyntaf o’i fath yn y byd.
Gall sbarduno cynnydd mewn cynhyrchiant a gostyngiad mewn gwastraff, creu cyfleoedd newydd, gwella perfformiad economaidd, ffordd well o fyw, lle hapusach i fod.
Ac oherwydd bod ‘Arloesi’ ym mhobman – ac i bawb – mae’n werth rhoi ei wir le mewn persbectif priodol…
Rhoi Arloesi yn ei Le
O ystyried pwysigrwydd arloesi i wireddu nodau ac uchelgeisiau strategol gwlad, derbynnir y dylai cyrff y llywodraeth ariannu cyfran o’r ‘arfer’ hanfodol hwn. Mae gan ryw 33 o 35 o wledydd yr OECD strategaethau gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi cenedlaethol, fel arfer gan gyfuno ‘Arloesi’ ac ‘Ymchwil’ fel categori craidd – Y ac A – gydag arloesi’n cael ei ystyried yn gamau gweithredu ac yn ganlyniadau sy’n dod â chanfyddiadau a chanlyniadau ymchwil yn fyw.
Mae data’r OECD yn dweud wrthym fod gwledydd yn buddsoddi rhwng 1% a 7% o gyfanswm eu cyllideb flynyddol mewn gweithgareddau Y ac A, gydag Adroddiad Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn ceisio cynyddu buddsoddiad mewn Y ac A o’r 1.7% presennol i 2.4% o’r CDG erbyn 2027 (ymrwymiad enfawr a fydd yn cynyddu arian cyhoeddus i £22 biliwn y flwyddyn erbyn 2024-25).
Gan ddadansoddi’r holl ganrannau a ffigurau, mae’n amlwg bod cynnydd mewn gwariant cyhoeddus a phreifat mewn Y ac A yn ddymunol iawn, gyda dogfen bolisi datblygu economaidd ddiweddaraf Llywodraeth y DU Build Back Better: Our Plan for Growth yn esbonio: “Mae buddsoddiad cyhoeddus mewn Y ac A yn denu buddsoddiad preifat mewn cymhareb o ryw £2 ar gyfartaledd ar gyfer pob punt o arian gan y Llywodraeth.”
Mae’r angen i sicrhau’r cydbwysedd hwnnw o fuddsoddiad cyhoeddus/preifat mewn Arloesi hyd yn oed yn fwy pwysig i’n rhanbarth. Er bod Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn mwynhau sylfaen ymchwil a gweithgarwch Y ac A gydag effaith uchel ac ymchwil flaengar amlwg, mae diffyg swm a sylwedd i’r system ymchwil ac arloesi yng Nghymru – mae’n effeithiol ond yn fach, gyda Chymru ar hyn o bryd yn buddsoddi 1% yn unig o’r CDG mewn Y ac A, sy’n llawer is na chyfartaledd yr OECD, sef 2.4%.
Mae’n golygu bod rhaid i ni fod hyd yn oed yn gallach yn y ffordd rydym yn arloesi – ac mae hanes yn dangos bod angen i ni arloesi mwy na’r rhan fwyaf, gan ddefnyddio dull mwy penodol i gyflawni nodau strategol clir ac uchelgeisiau cynaliadwy.
Mae angen i ni arloesi’n fwy na’r rhan fwyaf….
Mae anghydraddoldeb mewn perfformiad economaidd a chynhyrchiant rhwng Cymru a rhanbarthau a chenhedloedd eraill y DU wedi bod yn broblem hirsefydlog. Yn ôl Adolygiad gan y Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol o wahaniaethau cynhyrchiant rhanbarthol y DU, roedd yr incwm fesul gweithiwr yng Nghymru ym 1901 yn 15% yn is na chyfartaledd y DU ac er gwaethaf peth cydgyfeirio cynhyrchiant yng nghanol yr 20fed ganrif, mae ffigurau cyn y pandemig o 2017 yn dangos bod Cymru’n dal i fod 16% yn is na chyfartaledd y DU.
Nid yw’n syndod bod strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb wedi tynnu sylw at arloesi ac ymchwil – yn ogystal â buddsoddi mewn sgiliau a seilwaith – fel rhan greiddiol o gynyddu’r cynhyrchiant sydd ei angen i sbarduno twf economaidd a safonau byw uwch yma yn ein rhanbarth.
Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2018 yn dangos bod holl ranbarthau Cymru yn is na chyfartaledd y DU o ran allbwn yr awr; ac nid oes golwg well ar yr ystadegau hyn pan y’u hystyrir mewn darlun mwy, gyda Chymru – fel gweddill y DU – yng nghanol ‘pos cynhyrchiant’: problem sefydledig gyda rhannau o’r genedl wedi’u dal mewn “cylch o sgiliau isel, cyflog isel a chynhyrchiant isel”.
Mae’r ffigurau ar ôl 2008 ar gyfer y DU gyfan yn datgelu cynnydd blynyddol mewn cynhyrchiant o 0.3% yn unig, o’i gymharu â chyfradd twf flynyddol o 2.3% rhwng 1971 a 2005, gan awgrymu ein bod yn profi cynhyrchiant gwaethaf y DU mewn 250 o flynyddoedd – gyda Chymru yn y chwartel isaf o’r perfformiad hwn.
Felly, mae angen gwneud llawer o waith. Mae angen i lawer o arloesi ddigwydd, er mwyn creu rhanbarth cysylltiedig, cynaliadwy a chynhwysol. A dyna le mae ein cyfle yma ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae gennym y cyfle unigryw a gyflwynir yn sgil dechrau’r bedwaredd oes ddiwydiannol i neidio yn hytrach na dim ond ‘dal i fyny’ – gan ddefnyddio ein galluoedd cynhenid i gydweithio ac arloesi, gan ddatblygu ein cryfderau a datgloi’r potensial enfawr sydd wedi aros yn segur i raddau helaeth ers degawdau mewn llawer o setiau sgiliau, cymunedau a rhannau o’n heconomi.
Dewis y ffyrdd callaf o arloesi
Mewn sawl ffordd, mae datblygiad Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn sbardun gyda chylch gwaith ehangach wedi dod ar adeg pan fo holl bwnc Arloesi yn ein rhanbarth yn cyrraedd rhyw fath o groesffordd.
Mae data’r SYG yn dangos mai’r sector busnes sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r gwariant ar Arloesi yng Nghymru, gan gyfrif am 55% o’r holl wariant ar Y ac A yn 2018 (o’i gymharu â 68% o’r holl wariant ar Y ac A gan fusnesau ledled y DU) – ac o ystyried y sefyllfa sydd ohoni, mae Prifddinas-ranbarth Caerdydd mewn sefyllfa gref i chwarae rhan allweddol fel sbardun, cyd-bartner a buddsoddwr mewn arloesi.
Bu llawer o ddadlau ynghylch y llwybrau arloesi y dylai ein rhanbarth eu cymryd. Mae hyn wedi codi llawer o gwestiynau gwahanol. Beth yw’r ffordd orau o gymryd ymchwil sylfaenol arloesol a’i throi’n ddefnyddiau byd go iawn? A ddylai’r ffocws fod ar ganolfannau rhagoriaeth neu leoedd mewn angen – gyda chanlyniadau sy’n seiliedig ar leoedd yn helpu i ysgogi codi’r gwastad? Sut gallwn ni harneisio arloesi mewn mentrau preifat a’n prifysgolion rhagorol, er mwyn creu’r dyfodol gorau posibl? A allwn ystyried busnesau bach a chanolig sy’n datblygu?
Mae Prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi bod yn herio ei hun i ateb y cwestiynau hyn a mwy – ac yn ein herthygl nesaf, byddwn yn edrych ar sut mae Arloesi’n datblygu ar draws De-ddwyrain Cymru, gan archwilio’n fanwl sut mae DNA arloesol yn gyrru sectorau blaenoriaeth Prifddinas-ranbarth Caerdydd … sut mae ein tair prifysgol o’r radd flaenaf yn cydweithio’n agos â’r llywodraeth, diwydiant, BBaChau ac unigolion i ddod â syniadau i’r byd go iawn … sut mae buddsoddiad Prifddinas-ranbarth Caerdydd ei hun mewn cynlluniau peilot a rhaglenni mawr yn dwyn ffrwyth … sut mae ein Cronfeydd Her yn dwyn ynghyd yr ysbryd arloesol sy’n bodoli yn y sectorau cyhoeddus a phreifat – a sut rydym yn rhoi’r sgiliau i’n rhanbarth i ‘feddwl mewn ffyrdd newydd’, gan ddatblygu meddylfryd arloesol sydd â’r nod o roi #ArloesiArWaith.