BYDD Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn cael ei chadarnhau’n ffurfiol mewn seremoni llofnodi arbennig Ddydd Gŵyl Dewi, wrth i Gyngor Bro Morgannwg fod y degfed cyngor a’r olaf i roi’i ymrwymiad i’r rhaglen gwerth £1.2 biliwn.
Mae pob un o’r deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn awr wedi cytuno ar ymrwymiad i gael benthyg cyfanswm cyfunol o £120 miliwn fel rhan o Gronfa Buddsoddi Ehangach Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae’u penderfyniad hefyd yn golygu y bydd y Cabinet Rhanbarthol sy’n cynnwys arweinwyr y deg awdurdod lleol yn rhoi’r gorau i fodolaeth fel Cysgod ar ôl y llofnodi ar y 1af o Fawrth.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Cysgod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Roedd y pleidleisiau hyn yn rhan bwysig o broses y Fargen Ddinesig. Gweithiodd y deg awdurdod yn eithriadol agos dros yr 16 mlynedd diwethaf i gael y Fargen Ddinesig i’r sefyllfa hon, ond mae cefnogaeth i’r Fargen Ddinesig gan aelodau’r awdurdodau hynny’n hollol hanfodol os ydym am fwrw ymlaen gyda’n gilydd â’r Fargen hynod gyffrous hon.
“Gyda’i gilydd, gall y partneriaid llywodraeth leol greu newid economaidd a chymdeithasol sylfaenol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, drwy well trafnidiaeth, cefnogi arloesedd, gwell rhwydwaith digidol, datblygu sgiliau, cefnogi menter a thwf busnes, a thrwy ddatblygiad tai ac adfywio.”
Ar ôl y llofnodi, fydd yn digwydd ym Maes Awyr Caerdydd, bydd Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn dechrau ar gyfnod pontio. Bydd Cynllun Pontio (sydd i’w gyhoeddi) Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhoi manylion gweithgareddau allweddol sydd i’w cynnal, yn cynnwys sefydlu Swyddfa Ranbarthol i gymell y gwaith o gyflawni rhaglen waith (sydd i’w chyhoeddi) y Cabinet Rhanbarthol gan ragdybio y derbynnir cynigion ddiwedd eleni.
Bydd y cyfnod pontio hefyd yn gweld creu a datblygu pedwar corff cynghori i’r Cabinet Rhanbarthol – Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sefydliad cynrychioli busnesau ledled y rhanbarth, Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol, a Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau.
Gan siarad ar ôl y bleidlais ddiwethaf, dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Neil Moore: “Daw’r Fargen Ddinesig â buddion economaidd a chymdeithasol, fel ei gilydd, i Fro Morgannwg, fel y daw i Dde-ddwyrain Cymru i gyd. Edrychaf ymlaen yn awr at weithio â chydweithwyr ledled y rhanbarth i gyflawni amcanion y cytundeb rhwng y deg cyngor, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”
Y deg awdurdod lleol yw: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg.