Mae buddsoddiad £45 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn Ogi, cwmni telegyfathrebu amgen mwyaf Cymru, yn cynrychioli buddsoddiad unigol mwyaf Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn cwmni ers eu ffurfio yn 2017. Nod y pecyn cyllid i ariannu dyledion yw datblygu a thrawsnewid galluoedd digidol mewn pentrefydd, trefydd a dinasoedd ledled y deg Cyngor sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan helpu i lleihau anghyfartalwch digidol ac i gynnig gwasanaethau dibynadwy a gwibgyswllt i gymunedau a busnesau lleol.
Effeithir yn gadarnhaol ar fusnesau trwy gael band eang dibynadwy gwell, gan alluogi mwy o gynhyrchiant, cyfrifiadura cwmwl, deallusrwydd artiffisial a storfa ddata. Mae’r buddsoddiad hefyd yn sylfaenol i ddatblygiad sectorau uwch-dechnoleg Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn allweddol i ddatblygiadau parhaus fel yr Ardal Fuddsoddi.

Fel un o sectorau blaenoriaeth allweddol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae’r diwydiannau creadigol eisoes wedi elwa o alluoedd cysylltedd data Ogi, gyda Gemau Paralympaidd diweddar 2024 wedi’u cynhyrchu’n fyw o bell yng Nghanolfan Ddarlledu Cymru yng nghanol Caerdydd.
Mae seilwaith ffibr llawn newydd Ogi yn ochrgamu hen gysylltiadau sydd wedi diraddio, ac yn rhoi lefel newydd o gysylltedd i bobl sy’n gweithio ac yn byw yn y Rhanbarth. Daw’r pecyn â llawer o fuddion, yn cynnwys gwaith i bobl leol, gydag uchelgais i gyrraedd rhagor o gartrefi preswyl yn ogystal â 100,000 o adeiladau eisoes ar rwydwaith [FTTP] ffibr newydd i’r cartref.

Dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Nia Griffith:
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gefnogir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, fydd yn drawsnewidiol i lawer o bobl a busnesau yn ne-ddwyrain Cymru. Mae cysylltedd digidol da yn hanfodol ar gyfer twf economaidd ac i alluogi pobl i gael at wasanaethau ac i fwynhau’u hamser hamdden.
Rwyf wrth fy modd bod y buddsoddiad yn cael ei roi mewn cwmni o Gymru, sef Ogi, sy’n dangos y buddion o gydweithio i greu swyddi a llewyrch.”
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd Pwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Golyga’r buddsoddiad hwn ar lefel ymarferol lawer iawn i breswylwyr a busnesau oedd cynt efallai wedi’i chael hi’n anodd cael cysylltedd band eang. Bydd cyflymu’n Rhanbarth – yn eitha’ llythrennol – nid yn unig yn dyrchafu profiad y defnyddwyr ond hefyd yn annog rhagor o gyfleoedd a thwf economaidd sy’n gyson â gweledigaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer seilwaith digidol cynhwysol, cenhedlaeth nesaf.”


Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Deiliad Portffolio dros Gyflenwi Seilwaith a Phrosiectau Mawr:
“Cyflenwir y prosiect mawr hwn â’r nod datganedig o alluogi’n Rhanbarth i gystadlu ar gynifer o lefelau. Edrychaf ymlaen at gamau nesaf datblygiad y cwmni Cymreig hwn, a gweld hyd yn oed mwy o’r Rhanbarth yn elwa o alluoedd ffibr llawn heddiw, yn barod ar gyfer yfory.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Ogi, Ben Allwright:
“O’r dechrau un, ein huchelgais oedd bod yn un o brif gwmnïau telegyfathrebu Cymru, ac mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn sicr wedi gosod sylfeini cryfion ar gyfer y nod hwnnw.
“Gyda safleoedd strategol allweddol fel Aberddawan i’r de, a Blaenau’r Cymoedd i’r gogledd, mae yna botensial aruthrol ledled y brifddinas-ranbarth – a ffurfio partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar adeg gyffrous o’r fath yn eu datblygiad eu hunain yw’r cam rhesymegol nesaf ar gyfer twf Ogi yn ne-ddwyrain Cymru.”
