Dros y 18 mis diwethaf, mae’r GIG yng Nghymru wedi profi i fod yn un o’r gwasanaethau iechyd mwyaf arloesol yn y byd, ac ymhlith ei ddyfeisiau arloesol mae’r llwyfan ‘Gwasanaethau Digidol i Gleifion’ sy’n cynrychioli chwyldro mewn gofal clinigol ac effeithlonrwydd sefydliadol.
Ar raddfa lai ond yr un mor arloesol, mae’r gyfarwyddiaeth Gwella ac Arloesi a elwir yn ‘iCTM’ ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi croesawu’r ysbryd hwn o ddyfeisio gydag angerdd: gan sefydlu’r Ganolfan Ffisiolegol Ddigidol Uwch (ADPE) i sbarduno’r broses o fabwysiadu technolegau newydd yn gyflym – gan arwain at gyfres o ddatblygiadau arloesol sy’n gwneud gwelliannau amlwg i staff a chleifion GIG Cymru, bob dydd.
Gyda Accelerate Cymru yn darparu cyllid ar gyfer y ganolfan ADPE ynghyd ag argraffwyr, sganwyr, cyfleusterau dylunio a phrototeipio 3D o’r radd flaenaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn prysur ddod yn ddeorydd ac yn fainc arbrofi ar gyfer cynhyrchion newydd sy’n gwneud gwahaniaeth yn y byd go iawn – gan gynnwys y Clip Rheoli Ceblau, sy’n swnio’n ddigon syml.
Buom yn siarad â Rob Salter, Gwyddonydd Arloesedd o fewn y tîm iCTM yn BIP Cwm Taf Morgannwg i ddysgu sut mae’r tîm ADPE yn creu gwelliannau mor fawr ar gyfer un o wasanaethau mwyaf hanfodol y DU – a darganfod sut y manteisir i’r eithaf ar brofiad personol ac arbenigedd proffesiynol Rob ei hun a gafwyd drwy weithio yn y diwydiant gyda Agilient Technologies a Philips er budd un o’r gwasanaethau mwyaf hanfodol yng Nghymru, y DU a thu hwnt ….
Meddai Rob:
“Daeth y syniad ar gyfer y Clip Rheoli Ceblau gan ein cydweithwyr yn yr adran Peirianneg Glinigol mewn ymateb i lawer o ddigwyddiadau yn ymwneud â difrod ceblau. Roedd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi bod yn rhybuddio ysbytai am beryglon ceblau’n mynd yn sownd. Dychmygwch faint o welyau sydd gennym yn y GIG – a faint o ddifrod costus a pheryglus y gallai’r holl geblau hynny ei achosi mewn diwrnod gwaith arferol. Gall ein clip atal hyn rhag digwydd – a gellir ei ddefnyddio hefyd mewn llawer o wahanol senarios clinigol ym mhob rhan o’r ysbyty.”
Mae’r cyfuniad o ddyfeisgarwch dynol, dylunio digidol a phrototeipio yn golygu bod y gwaith o fasnacheiddio’r clip rheoli ceblau hwn bellach ar y gweill.
Mae’r gwaith o ddylunio a phrofi’r cynnyrch wedi’i gwblhau, ac mae archebion ar gyfer 3000 o unedau eisoes wedi dod i law ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg; ac mae’r clipiau ar gael i GIG Cymru mewn partneriaeth â’r gwneuthurwr Innotech Engineering (www.innotech-engineering.co.uk).
I Rob:
“Mae’r bartneriaeth waith agos gydag Innotech Engineering Ltd wedi sbarduno newid ac arloesedd o fewn BIP Cwm Taf Morgannwg gan amlygu sut mae cydweithio wedi bod yn allweddol i greu’r clipiau hyn a llawer o gynhyrchion eraill.”
Mae Rob yn parhau:
“Mae’r ganolfan ADPE yn llwyfan sy’n dwyn ynghyd ein staff, cleifion, academyddion a phartneriaid yn y diwydiant – gan roi’r rhyddid i ni weithio’n gyflym ac yn annibynnol, gan ymateb yn gyflym i unrhyw broblemau a darparu atebion yn y ffordd fwyaf ymarferol.
Roedd fy nghyfnod fel peiriannydd yn y sector preifat a gwyddonydd yn y gwasanaeth iechyd wedi atgyfnerthu fy nghred y gall Byrddau Iechyd elwa ar offer, sgiliau a phrofiad diwydiant er mwyn darparu datblygiadau arloesol ‘yn y fan a’r lle’.
Mae gweithio gyda chwmnïau fel Innotech fel partner arloesi yn golygu y gallwn (BIP Cwm Taf Morgannwg) brototeipio a phrofi syniadau’n gyflym, dileu risg, lleihau’r amser a dreulir ar y cam arbrofol – a defnyddio gwybodaeth ymarferol arbennig ein partner diwydiant i uwchraddio’r broses o gynhyrchu’r atebion gorau.”
Mae gallu’r tîm ADPE i sylwi ar heriau a nodi cyfleoedd ‘ar lawr gwlad’ yn y GIG wedi golygu ei fod wedi gallu creu amrywiaeth o ddatblygiadau arloesol ymarferol sydd wedi cael eu defnyddio er budd ein cleifion a’n gweithlu.
Gan weithio gyda chydweithiwr yn yr adran Patholeg, nododd BIP Cwm Taf Morgannwg hefyd faes arall i’w ddatblygu – Daliwr Samplau Patholeg. Ar ôl cysylltu â phartneriaid yn y diwydiant, cafodd ei brototeipio’n gyflym, cynhyrchwyd dyluniad mwy effeithlon ac wedyn cynnyrch newydd. Mae’r dyluniad newydd hwn wedi sicrhau gwerth ychwanegol sylweddol gan ei fod yn galluogi i achos cyflawn, gan gynnwys gwaith papur, gael ei storio mewn un daliwr, tra roedd angen dau ddaliwr ar y model blaenorol fesul achos ac nid oedd unrhyw le i storio gwaith papur.
Mae’r dull cydweithredol hwn hefyd wedi creu’r cynnyrch Cyfaill Llinellau, dyfais syml sy’n caniatáu i ni nodi’r llinellau trwythiad niferus sy’n mynd i mewn i gleifion yn ddiogel tra’u bod mewn gofal critigol. Datblygodd y Cyfaill Llinellau o drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol rhwng clinigwyr a dynnodd sylw at ba mor anfodlon oedden nhw â’r dulliau ar gyfer rheoli llinellau trwythiad oedd yn cael eu defnyddio – gan sbarduno iCTM i weithio gyda’r tîm i ddatblygu prototeip yn gyflym sy’n caniatáu rheoli llinellau trwythiad mewn modd llawer mwy effeithlon a mwy diogel mewn sefyllfaoedd gofal clinigol sy’n aml yn achosi straen. Mae’r Cyfaill Llinellau bellach ar gael i’w brynu ar y farchnad ehangach – ac mae’n gynnyrch arall sydd wedi’i gysyniadu a’i ddatblygu gan y tîm iCTM.
Mae cyflymder gweithredu’r ganolfan Peirianneg Ffisiolegol Ddigidol Uwch yn cynnig potensial diddiwedd – ac mae hynny wedi cael ei gydnabod gan y rhan ganolog y mae’n ei chwarae ar hyn o bryd mewn prosiect cydweithredol allweddol rhwng Coleg Prifysgol Llundain, Arloesedd Anadlol Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r prosiect arloesol hwn ar ymgyrch i ddatblygu ystorfa ar-lein ar gyfer dyluniadau printiedig 3D a ffeiliau risg cynnyrch, gan alluogi ysbytai’r GIG i argraffu rhannau addas o ddyfeisiau meddygol a modelau anatomegol yn gyflym … yr enghraifft ddiweddaraf o’r gwaith sy’n agor gorwelion newydd, drwy garedigrwydd canolfan arloesedd digidol sy’n canolbwyntio ar bobl ac sydd wrth wraidd Bwrdd Iechyd ysbrydoledig.