Mae yna garreg filltir arwyddocaol wedi’i chyrraedd yn y trawsnewidiad fu yn yr arfaeth ers amser maith o Orsaf Drenau Caerdydd Canolog, gyda’r achos busnes llawn ar gyfer ailddatblygu bellach wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan yr holl bartneriaid cyllido. Mae’r cyhoeddiad yn paratoi’r ffordd i waith adeiladu ddechrau, ac mae’n nodi un o’r uwchraddiadau pwysicaf mewn seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru ers cenhedlaeth.
Ategir y cynllun, dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru (TfW), gan hyd at £140 miliwn o fuddsoddiad gan yr Adran Drafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cyfrannu £40 miliwn tuag at y rhaglen. Bydd yr ailddatblygu yn moderneiddio gorsaf drenau brysuraf Cymru, gan ysgafnu tagfeydd, gwella hygyrchedd a chreu gorsaf sy’n gallu cynorthwyo twf niferoedd teithwyr dros y cyfnod hir ledled y rhanbarth.
Ar ôl proses dendro gystadleuol, penodwyd BAM yn gontractwr dylunio ac adeiladu cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau y flwyddyn nesaf. Sicrhawyd cymeradwyaeth gynllunio ar gyfer y prosiect yn gynharach eleni, gyda’r orsaf i fod i barhau’n agored trwy gydol y gwaith ailddatblygu.
Mae’r uwchraddio arfaethedig yn cynnwys man ymgynnull mwy o faint i gynyddu cynhwysedd, gwell mynediad trwy’r giât docynnau i wella llif teithwyr, gwell cysylltedd â mathau eraill o deithio, a llawer gwell hygyrchedd i’r bobl hynny sydd â llai o symudedd. Bydd teithwyr hefyd yn elw o fannau aros wedi’u huwchraddio, gwell cyfleusterau adwerthu a chyfleusterau newydd i gadw beiciau.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Gweithredol yn Trafnidiaeth Cymru:
“Mae cymeradwyo’r achos busnes llawn yn rhoi’r golau gwyrdd i fwrw ymlaen â’n cynlluniau i ddarparu gwelliannau gwir eu hangen i Orsaf Drenau Caerdydd Canolog. Golyga’r buddsoddiad o hyd at £140 miliwn y gallwn ddarparu gwelliannau i’r orsaf i’w gwneud hi’n addas ar gyfer prifddinas, a chynnal twf y dyfodol, gan ddarparu gwell profiad i gwsmeriaid ein gorsaf. Gan weithio gyda’n partneriaid dylunio ac adeiladu, gallwn yn awr fwrw ymlaen i ddechrau ar waith adeiladu y flwyddyn nesaf.”
Mae buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn adlewyrchu’i hymrwymiad i gynorthwyo seilwaith trafnidiaeth hanfodol sy’n cryfhau cysylltedd rhanbarthol, sy’n hybu twf economaidd ac sy’n gwella profiad dyddiol miloedd o deithwyr sy’n dibynnu ar Gaerdydd Canolog fel adwy i’r ddinas a’r rhanbarth ehangach.
Mae’r gwaith ailddatblygu yn cynrychioli cam mawr ymlaen tuag at greu gorsaf fodern, groesawgar ac sy’n llwyr hygyrch sy’n cynnal treftadaeth y tirnod pwysig hwn gan hefyd ei baratoi ar gyfer anghenion cenedlaethau’r dyfodol.