Canolfan Arloesi Seiber newydd gyda’r nod o gefnogi Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes Seiberddiogelwch yn sicrhau ymrwymiadau ariannu gan Lywodraeth Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Phartneriaid Diwydiant

Categorïau:
Buddsoddiadau

Bydd Canolfan Arloesi Seiber (CAS) newydd i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes Seiber-Ddiogelwch yn weithredol yn ddiweddarach eleni ar ôl denu ymrwymiadau cyd-fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PR-C) a phartneriaid yn y diwydiant.

Mae Llywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gwneud buddsoddiad o £3m yn y Ganolfan newydd dros gyfnod o ddwy flynedd, gyda £3.5m arall o arian cyfatebol mewn da gan bartneriaid y consortiwm yn rhoi hwb i’r buddsoddiad cychwynnol i £9.5m. Disgwylir y bydd y Ganolfan yn denu cyfanswm o £19.9m o gymorth dros 5 mlynedd.

Mae’r Cyllid ar gael i gonsortiwm dan arweiniad Caerdydd i ddatblygu’r bartneriaeth gyda chydweithredwyr gan gynnwys Airbus Seiber Alacrity, CGI, Thales NDEC, Tramshed Tech, a Phrifysgol De Cymru.

Wedi’i datbygu dan y cyfarwyddwr Pete Burnap, Athro Gwyddorau Data a Seiberddiogelwch, yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, nod y Ganolfan Arloesi Seiber yw rhoi hwb i nifer y busnesau seiberddiogelwch sydd wedi’u hymgartrefu yn ne-ddwyrain Cymru, a gwella sgiliau seiberddiogelwch i ehangu ac arallgyfeirio’r gronfa dalent seiberddiogelwch.

Bydd creu’r ganolfan newydd yn arwain at newid sylweddol i ragoriaeth seiberddiogelwch bresennol Cymru, gan weithredu gyda’i gilydd mewn gweithgareddau cydgysylltiedig sy’n seiliedig ar glystyrau. Bydd yn meithrin cydweithio rhwng diwydiant, y llywodraeth a phartneriaid academaidd, gan ganolbwyntio ar dyfu sector seiberddiogelwch Cymru a galluogi’r genedl i fanteisio ar dwf disgwyliedig y sector yn y DU, ac yn fyd-eang. Bydd y buddsoddiad yn ysgogi dull cydgysylltiedig ar gyfer sgiliau, arloesi a chreu mentrau newydd, sy’n unigryw yn y DU.

Erbyn 2030, nod y Ganolfan yw:

  • Creu o leiaf 27 o fusnesau newydd seiberddiogelwch – gan dyfu’r sector seiberddiogelwch yng Nghymru gan fwy na 50% o ran nifer y busnesau;
  • Denu mwy nag £20m mewn buddsoddiad ecwiti preifat;
  • Uwchsgilio ac ailsgilio tua 1750 o unigolion â sgiliau seiber a chreu catalydd cydgysylltiedig ar gyfer cynhyrchion newydd, busnesau twf uchel a thalent yn y rhanbarth.
  • Helpu i ddenu ac angori’r dalent seiberddiogelwch orau yng Nghymru, a fydd hefyd o fudd i’r economi sylfaenol leol.

 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

“Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gyd-ariannu cenhadaeth Canolfan Arloesi Seiber i drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o glystyrau seiber mwyaf blaenllaw’r DU erbyn 2030.

“Mae’r pandemig wedi amlygu pa mor bwysig yw arloesi ym maes seiber o ran cefnogi a diogelu rhannu gwybodaeth wrth gynnig data a mewnwelediad i helpu i gadw’r rhanbarth i symud a thyfu.”

 

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies:

“Rwy’n falch iawn o weld y ganolfan newydd hon sy’n arwain y byd yn agor ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, wedi’i chefnogi fel rhan o fuddsoddiad £375m Llywodraeth y DU yn y fargen Dinas-Ranbarth. Bydd hyn yn dod â swyddi a thwf i’r ardal yn ogystal â rhoi Cymru wrth wraidd y diwydiant seiberddiogelwch.”

 

Dywedodd Chris Ensor Dirprwy Gyfarwyddwr Twf Seiber, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (yr NCSC):

“Mae’r Ganolfan Arloesi Seiber yn ychwanegiad i’w groesawu i ecosystem seiberddiogelwch sydd eisoes yn drawiadol yn ne Cymru, gan ddod â buddion nid yn unig i’r ardal leol ond i’r DU gyfan. Mae’r NCSC yn edrych ymlaen at gefnogi’r Ganolfan ar ei daith o sbarduno trawsnewid a thwf seiber-arloesi.”

 

Dywedodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

“Rydym yn falch iawn o fod yn cyd-ariannu’r fenter newydd arloesol hon sy’n hanfodol i dwf y sector seiberddiogelwch yn y rhanbarth a byddwn yn creu mantais gystadleuol i  P-RC yn erbyn rhanbarthau eraill y DU. Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, wedi’u cydnabod gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (rhan o GCHQ) fel Canolfannau Rhagoriaeth Academaidd naill ai mewn ymchwil neu addysgu.

“Mae eu gwaith yn sail i ymchwil arloesol sydd wedi arwain at greu cwmnïau deillio a busnesau bach a chanolig ac wedi trosglwyddo i fusnesau mwy. Mae hyn yn creu cadwyn gyflenwi gref a chynaliadwy yng Nghymru, sy’n cael ei chydnabod a’i gwerthfawrogi gan ei busnesau a’i phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus sydd hefyd â rhan sylweddol yn nyfodol y sector hwn. Mae cael y cynhwysion hyn yn ein gwneud yn ecosystem seiberddiogelwch ragorol ar lefel genedlaethol.”

 

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan:

“Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru a P-RC, mae Prifysgol Caerdydd yn awyddus i chwarae rhan allweddol mewn clwstwr sy’n cyd-fynd â’n strategaeth arloesi, gan ysgogi partneriaethau masnachol a sector cyhoeddus hirsefydlog i ddatblygu heriau a arweinir gan y farchnad, darparu Eiddo Deallusol, hyrwyddo seiber-gynhyrchion newydd a chwmnïau twf uchel, a datblygu cronfa dalent sy’n bwydo’n uniongyrchol i’r clwstwr.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Roedd buddsoddiad ecwiti Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ym mis Ionawr 2021 yn Pharmatelligence yn ymrwymiad i'r arloeswr eithriadol o Gaerdydd sy'n torri ei gwys ei hun i ddarparu tystiolaeth arbenigol, annibynnol, go iawn ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd a'r diwydiant fferyllol.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.