Ddoe (dydd Mercher 10 Mehefin) mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi cyhoeddi mai Chloe Danton o Hodge Bank yw enillydd ei Her Arloeswyr AI Venture gyntaf erioed, a ddatgelwyd yn ystod digwyddiad arddangos yn Wythnos Dechnoleg Llundain.
Daeth y gystadleuaeth, mewn partneriaeth â Tramshed Tech, â charfan o dalent newydd o bob cwr o dde-ddwyrain Cymru ynghyd i ddatblygu atebion ymarferol ac arloesol sy’n cofleidio offer fel deallusrwydd artiffisial (AI) i fynd i’r afael â heriau busnes y byd go iawn.
Datgelwyd yr enillydd mewn derbyniad prynhawn ble’r oedd arweinwyr o fyd technoleg, diwydiant, llywodraeth a’r byd academaidd yn bresennol, gan ddangos enw da cynyddol PRC fel canolfan arloesi a datblygu sgiliau.
Roedd y digwyddiad yn rhan o Wythnos Dechnoleg Llundain ac yn tynnu sylw at ymrwymiad y rhanbarth i ddatblygu talent sy’n barod ar gyfer y dyfodol a gyrru twf economaidd trwy AI cymhwysol.
Yn dilyn rhaglen ddeg wythnos, symudodd y cyfranogwyr ymlaen o ddatblygu syniadau cynnar at atebion a wireddwyd yn llawn, yn barod i’w cyflwyno, gyda chefnogaeth mentora arbenigol a mynediad at fewnwelediad i’r diwydiant. Dewiswyd y tri olaf ar ôl proses gystadleuol o lunio rhestr fer, gyda’r beirniadu dan arweiniad panel arbenigol a gydlynwyd gan Tramshed Tech.
Ochr yn ochr â Chloe Danton, cafwyd ceisiadau nodedig gan Wei-Jei Yuan o EA Global a Jacob Newman o Safran Seats a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol, y gwnaeth eu datrysiadau argraff ar y beirniaid am eu creadigrwydd a’u defnydd yn y byd go iawn.
Roedd y datrysiad buddugol, a ddatblygwyd gan Chloe, yn sefyll allan am ei arloesedd, ei ddefnydd ymarferol a’i botensial i gyflawni effaith fesuradwy o fewn ei sector.
Mae PRC yn un o ddinas-ranbarthau’r DU, sy’n dwyn deg awdurdod lleol ynghyd ar draws de-ddwyrain Cymru, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraethau Cymru a’r DU, i ysgogi twf economaidd cynhwysol trwy fuddsoddi mewn seilwaith, sgiliau, arloesedd a datblygu cynaliadwy. Dywedodd Is-gadeirydd PRC, y Cynghorydd Dimitri Batrouni, ac arweinydd portffolio arloesi ac AI y corff cyhoeddus,
“Mae safon y syniadau drwy gydol Her Arloeswyr AI Venture wedi bod yn eithriadol, ac yn dangos cryfder talent newydd ar draws ein rhanbarth. Mae datrysiad Chloe yn dangos yr union fath o arloesi ymarferol, blaengar sydd ei angen er mwyn ysgogi newid go iawn i fusnesau a chymunedau.
“Mae’r rhaglen hon yn fwy na chystadleuaeth, ac mae’n diolch i’r tîm yn Tramshed Tech yn fawr am eu cefnogaeth a’u partneriaeth i gyflwyno’r Rhaglen Venture into Innovation sy’n cefnogi’r gweithwyr proffesiynol hyn sydd ar ddechrau eu gyrfa i feithrin hyder, gallu a chyfle, gan sicrhau bod de-ddwyrain Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi AI cymhwysol.”
Ychwanegodd yr enillydd Chloe Danton o Hodge Bank, “Mae cymryd rhan yn Her Arloeswyr AI Venture wedi bod yn brofiad anhygoel. O’r mentora a’r gefnogaeth at y cyfle i brofi a datblygu ein syniad, mae’r rhaglen wedi helpu i droi cysyniad yn rhywbeth â photensial yn y byd go iawn.
“Mae cael fy nghydnabod fel yr enillydd yn Wythnos Dechnoleg Llundain yn anrhydedd enfawr ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu’r datrysiad hwn a gweld yr effaith y gall ei chael o fewn y diwydiant.”
Mae Her Arloeswyr AI Venture wedi’i chynllunio i gefnogi prentisiaid, graddedigion a gweithwyr proffesiynol sydd ar ddechrau eu gyrfa i gymhwyso AI mewn ffyrdd ystyrlon a chyfrifol, gan fynd i’r afael â heriau gweithredol ar draws sectorau gan gynnwys digidol, gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau creadigol a sero net.
Fel rhan o’r wobr, bydd yr enillydd yn cael cyllid a chefnogaeth i ddatblygu ei gysyniad ymhellach, gan gynnwys symud ymlaen i Raglen Galluogi AI PRC, a fydd yn helpu i ehangu ei syniad yn ddatrysiad y gellir ei ddefnyddio.
Cynhaliwyd trafodaeth banel yn nigwyddiad Wythnos Dechnoleg Llundain hefyd a fu’n trafod talent, arloesedd ac effaith economaidd hirdymor, gan ddefnyddio rhaglen Venture Into Innovation fel astudiaeth achos fyw o sut y gall buddsoddiad rhanbarthol mewn sgiliau gyflawni canlyniadau pendant.
Dywedodd y prif feirniad, Carys Owens, Cyfarwyddwr Rheoli Whisper Cymru, “Mae Her Arloeswyr AI Venture yn tynnu sylw at gryfder y dalent sydd gennym ledled de-ddwyrain Cymru a’r rôl bwysig mae rhaglenni fel hyn yn ei chwarae wrth gefnogi arloesedd a thwf economaidd.
“Drwy fuddsoddi mewn sgiliau a chreu cyfleoedd i weithwyr proffesiynol newydd gymhwyso technolegau newydd mewn ffyrdd ymarferol, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn helpu i sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn gystadleuol yn niwydiannau’r dyfodol.”
Dywedodd Jack Mayers, Pennaeth Sgiliau, Tramshed Tech: “Mae’r her hon wedi dangos beth sy’n bosibl pan fyddwch chi’n dod â thalent, uchelgais a’r gefnogaeth gywir ynghyd. Dylai’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fod yn hynod falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut mae’r syniadau hyn yn parhau i dyfu a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”