Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – Mae’r Daith yn Parhau

Categorïau:

Gan Kevin Gardiner (Cadeirydd, Bwrdd Twf Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru)

Mae 2026 yn sicr wedi dechrau gyda digon i’w ddweud. Beth sydd ganddi i’w gynnig i economi’r byd, a’n hoff ran ohoni yma yn ne-ddwyrain Cymru? Fy nghyngor i yw cadw meddwl agored.

Yn sicr, mae’r sefyllfa geo-wleidyddol yn teimlo’n anarferol o fregus.

Fodd bynnag, nid yw pethau sy’n ein poeni ni fel dinasyddion bob amser yn effeithio ar economi fyd-eang amhersonol sydd wedi bod yn ddryslyd hyd yn hyn. Gallai’r DU fod wedi gwneud yn well, ond er gwaethaf Brexit, mae wedi cadw i fyny â’r Almaen a Ffrainc, ac mae masnach weladwy gyda’r UE tua thraean yn fwy nag yr oedd pan oeddem ynddi.

Ein her ranbarthol: “cryfach, tecach, gwyrddach”

Yn ne-ddwyrain Cymru rydym yn wynebu heriau ein hunain. Mae cynhyrchiant – sydd â chysylltiad agos â safonau byw – yn rhy isel ac mae rhai o’n cymunedau ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yn y DU (ac yn Ewrop, mwy na thebyg). Mae angen trafnidiaeth gyhoeddus well a mwy integredig arnom yn ogystal ag ynni glanach a mwy diogel.

Ein gwaith ni fel Bwrdd Twf Rhanbarthol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) yw cynghori’r gwneuthurwyr penderfyniadau etholedig yn yr awdurdodau lleol ar y ffordd orau o fynd i’r afael â’r heriau hyn.

Y nod yw hybu lles economaidd cyffredinol, i gyflawni nid yn unig economi ranbarthol fwy, mwy ffyniannus, ond un sy’n gynhwysol ac yn gynaliadwy yn amgylcheddol hefyd. Mae PRC yn canolbwyntio ar greu rhanbarth cryfach, tecach a gwyrddach.

Nid yw’n hawdd. Mae nifer o safbwyntiau ynghylch sut i ddatblygu economi. Mae rhai’n dweud ei fod yn ymwneud â chreu galw; mae eraill yn canolbwyntio ar gymhellion, cyllid, neu (lle bo’n berthnasol) cyfraddau llog a chyfnewid.

Din ond ychydig o’r safbwyntiau hynny, fodd bynnag, sy’n sôn am y pethau rydym yn eu gwneud neu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Mae economegwyr wrth eu bodd yn siarad am wariant defnyddwyr, benthyca gan y llywodraeth, chwyddiant, diweithdra – ond nid am yr hyn rydym yn ei gynhyrchu neu’n ei gyflenwi. Efallai bod siarad am wneud pethau’n rhy ddiflas. Eto i gyd, mae’r cymysgedd o allbwn – pam rydym yn cynhyrchu rhai pethau ac nid eraill – yn bwysig iawn.

Yn y cyfnod modern, yr economi fawr fwyaf llwyddiannus fu economi America. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod America wedi arwain y cylch cynnyrch yn aml.

Mae US Inc., yn aml mewn partneriaeth (a anwybyddir) â’r llywodraeth ffederal, yn arbenigwr ar ddyfeisio a darparu’r hyn mae pobl eisiau ei brynu nesaf. Ceir fforddiadwy, offer sy’n arbed llafur, adloniant torfol, telathrebu rhad, cyfrifiadura, cyfryngau digidol, Deallusrwydd Artiffisial (er efallai mai amser a ddengys ynglŷn â hynny).

Nid doler rhad, cyfraddau llog isel na llywodraeth sy’n gwastraffu arian yw hyn, a dyna pam ei bod wedi gwneud mor dda. Pan fydd yr Arlywydd Trump yn cynnig Gwneud America’n Wych Eto, trwy ddefnyddio doler is i ailagor mwyngloddiau a gweithfeydd dur caeedig yr Unol Daleithiau, mae’n ymddangos ei fod yn ceisio gwthio’r llanw hwn o arloesedd yn ôl yn effeithiol (ac ar gam). Gallem ni ddysgu rhywbeth iddo.

Yn agosach at adref, ac yn fwy diweddar, mae Iwerddon yn cynnig y peth agosaf rydw i wedi’i weld i gynllun ar gyfer trawsnewid economi fach. Ym 1994, labelais ei heconomi oedd yn tyfu’n gyflym yn “Deigr Celtaidd”. Mae safonau byw yno wedi codi o’r parth diraddio i frig y tabl rhyngwladol ers hynny.

Mae strategaeth ddiwydiannol wedi bod yn rhan o’i llwyddiant. Mae trethi busnes isel, aelodaeth o’r UE a gweithlu hyblyg, medrus wedi helpu’n aruthrol, ond ar y cyd â chlystyrau o fusnesau llwyddiannus – y rhan fwyaf ohonynt yn eiddo tramor, ac yn unol â’r cylch cynnyrch byd-eang – gan gynnwys technoleg gwybodaeth, gwyddorau bywyd a gwasanaethau ariannol.

 

 

Beth rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud

Wrth gwrs, ni all de-ddwyrain Cymru wneud yr un peth â wnaeth Iwerddon. Dydyn ni ddim yn rheoli trethi busnes ac yn anffodus rydym y tu allan i farchnad sengl yr UE. Gallwn ni, fodd bynnag, atgyfnerthu ein clystyrau llwyddiannus ein hunain.

Ein sectorau blaenoriaeth yw arloeswyr, creu a defnyddio technolegau newydd. I gydnabod rhai o’r cryfderau hyn, dyfarnwyd £30 miliwn o Gronfa Partneriaeth Arloesi Lleol i’r rhanbarth gan Ymchwil ac Arloesi’r DU ddiwedd 2025.

Nod y sectorau blaenoriaeth hyn yw cystadlu nid ar bris, ond ar ansawdd ac unigrywiaeth. Ni fydd y “ras i’r gwaelod” cyflog isel a hyrwyddir gan rai cynghorwyr polisi’r DU yn gweithio. Mae Tsieina a Fietnam – ac ar eu hôl, India – wedi cornelu’r farchnad honno. Rydym yn ceisio economi cyflogau uchel, nid un rad.

Wedi dweud hynny, cofiwch ein mandad: rhaid i dwf fod yn gynhwysol ac yn gynaliadwy. Ochr yn ochr â mentrau cystadleuol, cynhyrchiant uchel, mae angen i ni hefyd fuddsoddi mewn sectorau sy’n creu cyflogaeth gonfensiynol a sylfaenol – fel tai, trafnidiaeth, twristiaeth – ac yn y trawsnewidiad ynni.

Yn hyn i gyd, gallwn dynnu ar dair prifysgol sy’n ymwybodol o fasnach a sector addysg bellach llewyrchus ar gyfer sgiliau. Mae gennym fynediad at rywfaint o gyllid uniongyrchol ein hunain i gefnogi mentrau lleol dan oruchwyliaeth bwrdd buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (dan gadeiryddiaeth fy nghydweithiwr Frank Holmes). Mae gennym ein Parth Buddsoddi, a fydd yn pweru’r coridor arloesi ar draws de-ddwyrain Cymru, gan gysylltu clystyrau allweddol â chadwyn gyflenwi a chronfa dalent.

Gallwn agor ein breichiau i fuddsoddiad mewnol, fel y gwnaeth Iwerddon. Efallai na fyddwn yn gallu cynnig bargeinion o gyfraddau treth, ond mae ansawdd bywyd lleol, ein diwylliant a thai cymharol fforddiadwy yn atyniad pwysig.

Seiliau gwerth adeiladu arnynt

I’r rhai sy’n anghyfarwydd â’n cefndir, mae ein model datblygu wedi tyfu allan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd 2016, partneriaeth dair ffordd rhwng San Steffan, y Senedd a’r deg awdurdod lleol. Mewn adolygiadau, mae ein harchwilwyr wedi cymeradwyo ein strategaeth. Mae ein rhanbarth yn llawn cyfleoedd – mae angen i ni adrodd ein stori.

Gobeithiwn y bydd pwy bynnag sy’n ennill etholiadau’r Senedd ym mis Mai yn adeiladu ar y cynnydd hwn ac efallai’n cyflwyno rhywbeth tebyg ar draws rhanbarthau eraill Cymru. Mae gennym ein Parth Buddsoddi, a fydd yn pweru’r coridor arloesi ar draws de-ddwyrain Cymru, gan gysylltu clystyrau allweddol â chadwyn gyflenwi, cronfa dalent a chymdeithas byw, gweithio, chwarae go iawn. Gyda hynny mewn golwg, bydd yr economegydd hwn bob amser yn cynghori cadw mynediad i’r farchnad fwyaf posibl – boed hynny’n Ewrop neu weddill y DU.

I gloi, mae’r gwydr economaidd yn hanner llawn. Wrth ddweud hyn, rwy’n bod yn realistig, nid yn optimistaidd. Er gwaethaf y Wal Pryder, nid yw’r person cyffredin erioed wedi cael gwell bwyd, dillad na llety.

Yma yn ne-ddwyrain Cymru, er gwaethaf ein heriau, efallai bod yr economi ddwywaith mor fawr, y pen, ag yr oedd pan oedd gweithfeydd East Moors Caerdydd yn cau, ac roeddwn i’n swyddog clerigol DHSS yn Nhreganna. Mae’r rhanbarth wedi symud ymlaen – gweithleoedd gwahanol, cynhyrchion gwahanol – a bydd yn symud ymlaen eto.

Blwyddyn heddychlon ac iach i chi yn 2026.

Kevin Gardiner (Cadeirydd, Bwrdd Twf Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru)

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Ar draws y DU mae rhesymeg fuddsoddi newydd yn dod i'r amlwg. Un sy'n cydnabod nad yw ynni, gweithgynhyrchu, seilwaith digidol a sgiliau’n bethau ychwanegol dewisol ond yn sylfeini cystadleurwydd cenedlaethol.

Subscribe for updates

Skip to content