Diweddariad Statws Fis Mawrth 2021
- Yn dilyn agor ein cronfa hyfywedd Cartrefi i’r Rhanbarth i geisiadau ar 28 Awst, mae’r tîm wedi bod yn brysur yn cefnogi ein cydweithwyr yn yr awdurdod lleol gydag eglurhad ar y broses ac yn gyffredinol yn helpu i ddatblygu ceisiadau.
- Daeth y cyfnod ymgeisio i ben o’r diwedd ar 11 Ionawr. Mae’r ymateb wedi bod yn aruthrol – gyda 18 o geisiadau wedi’u derbyn ar draws 9 o’r 10 awdurdod lleol, mae cwantwm y cyfleoedd a nodwyd wedi rhagori’n sylweddol ar ein disgwyliadau.
- Mae ceisiadau wedi eu hasesu gyda’r bwriad o lunio rhestr fer ar gyfer ystyriaeth a chymeradwyaeth y Cabinet Rhanbarthol ar 15 Mawrth.
- Y meini prawf allweddol ar gyfer llunio rhestr fer fydd cyfuniad o asesiad o’r gallu i gyflawni’r cynlluniau ynghyd â’r graddau y maent yn darparu gwerth cyffredinol am arian a chyfleoedd ar gyfer cyfranogiad gan BBaChau lleol.
- Yn amodol ar gymeradwyaeth y cabinet rhanbarthol ar y 15fed, bydd ymgeiswyr yn cael gwybod wedi hynny am y penderfyniadau a wnaed a bydd llythyrau ynglŷn â dyfarnu arian yn cael eu hanfon i’r ymgeiswyr llwyddiannus.