Cynhadledd Fusnes ‘Ysgogi’, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gynhelir yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ar 26 Ebrill, yw ‘Y Diwrnod’ lle byddwn yn dathlu ysbryd entrepreneuraidd ein Rhanbarth. Yn y gyntaf mewn cyfres arbennig sy’n rhoi sylw i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydym yn siarad â Vicky Mann, sylfaenydd NearMeNow a VZTA, am ei phrofiad fel entrepreneur yn Ne-ddwyrain Cymru.