Yn dilyn buddsoddiad sylweddol o £4.4m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Zip World, sy'n enwog yng Ngogledd Cymru am fod â’r llinell sip gyflymaf yn y byd, wedi dod â'u brand unigryw o dwristiaeth antur i ganol gwlad fynyddig y Rhigos. Gyda'r nod o roi hwb i economi De Cymru, wrth ddefnyddio'r dirwedd drawiadol i adfywio’r eicon hwn o hanes glofaol y rhanbarth, agorodd y safle i'r cyhoedd ar 26 Ebrill. Yn awyddus i weld y trawsnewidiad rhyfeddol hwn a chael profiad o Zip World ein hunain, fe gwrddon ni ag Ellie Watkins, sy'n rheoli'r holl weithgarwch marchnata lleol, a'r tîm ehangach i ddeall mwy am hanes Zip World Tower a’i gynlluniau presennol ac i’r dyfodol, a sut brofiad ydy gweithio yno.