Category: Datganiad i'r Wasg – Arall

£160M funding from UK Government and Welsh Government announced in the Autumn Statement to support intensive economic growth in Southeast Wales.
Cyhoeddodd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) fuddsoddiad gwerth £9.7 miliwn gan y Gronfa Adeiladau Strategol i ariannu cwblhau Gwesty Tŷ Casnewydd a chanddo 146 o welyau, nid nepell o goridor yr M4.
Cyhoeddodd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) fuddsoddiad gwerth £12 miliwn gan y Gronfa Adeiladau Strategol i ariannu datblygiad Stiwdios Great Point yng Nghaerdydd yn y dyfodol, a rhagwelir y daw hyn yn un o brif ganolfannau Ewrop ar gyfer cynhyrchu ar gyfer ffilmiau a theledu.
- Mae IIC yn gwneud buddsoddiad cyntaf yn AMPLYFI, y busnes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a leolir yng Nghaerdydd - Disgwylir rhagor o fuddsoddiadau yn y misoedd i ddod.
Mae her bwyd cynaliadwy, sy'n chwilio am atebion arloesol a allai gynyddu cynhyrchiant bwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi agor ar gyfer ceisiadau.
Yr wythnos hon, lansiodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Raglen Datblygu a Thyfu Clystyrau unigryw: rhaglen sy’n agor pedwar cyfle tendro eithriadol ar gyfer mentrau lleol i lunio setiau sgiliau blaenoriaethol sy’n dechrau ymddangos yn Ne-ddwyrain Cymru.
Yng Nghaerdydd heddiw lansiwyd yn ffurfiol Hyb Arloesedd Seiber (CIH) sy'n ceisio trawsnewid De Cymru i fod yn glwstwr blaenllaw.
Dadlennodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ei Chynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol (REIP) ar gyfer 2023-2028, gan adeiladu ar y cynllun agoriadol sydd eisoes wedi gweld Bargen Ddinesig gwerth £1.23 biliwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyflenwi buddsoddiad sylweddol ac yn cyflawni cerrig milltir arwyddocaol mewn ymyriadau.
Cymerodd y weledigaeth ar gyfer parc ynni gwyrdd sydd oddeutu 489 erw ym Mro Morgannwg gam sylweddol ymlaen - drwy fod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cwblhau pryniant gorsaf bŵer Aberddawan sy’n rhedeg ar lo a oedd unwaith yn symboleiddio cynhyrchu ynni tanwydd ffosil yng Nghymru.
Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David TC Davies, AS, ddoe â phencadlys Jellagen yn Ne Cymru - sef y cwmni biodechneg a sefydlwyd yng Nghaerdydd sy’n arwain y byd mewn meddyginiaethau atgynhyrchiol chwyldroadol, drwy’i ddull radicalaidd o weithredu tuag at harneisio buddion bioddeunyddiau colagen datblygedig a ddeilliwyd yn gynaliadwy o sglefrod môr.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.