Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau eleni eisoes wedi cyrraedd, yn rhedeg o 7 Chwefror i 13 Chwefror. Gyda phrinder sgiliau yn cyrraedd lefelau acíwt mewn llawer o sectorau, ymrwymodd Llywodraeth San Steffan i godi’r gwastad yn yr economi dalent - ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed yn ystod y pum mlynedd nesaf. Bydd y cyfle hwn i dynnu sylw at sgiliau yn y gweithle a datblygiad galwedigaethol yn cael ei ddathlu am yr hyn ydyw mewn gwirionedd: carreg sylfaen hanfodol ar gyfer llwyddiant cynaliadwy pob cyflogwr; a chyfle mawr i gyflawni potensial bywyd pobl ym mhob demograffeg oedran gweithio, ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chymru gyfan.