Mae trydedd flwyddyn trydedd ddegawd yr 21ain ganrif yn addo bod yn daith sgiliau sy’n wahanol i unrhyw un arall. Mae'r adferiad economaidd, y pedwerydd chwyldro diwydiannol a'r ras i sero oll yn cynrychioli cyfleoedd mawr yn ogystal â heriau sylweddol. Os gallwn 'wneud pethau'n iawn' o safbwynt sgiliau, yna bydd dyfodol ein rhanbarth yn seiliedig ar weithlu gwydn ac ystwyth, cronfa dalent ehangach a dyfnach, sefydliadau sy'n perfformio'n well, gwell swyddi yn nes at adref a mwy o ffyniant ym mhob cymuned.