Dewiswyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) fel partner cyflenwi i UKRI ar gyfer y Gronfa Partneriaeth Arloesi Lleol.
Bydd hyn yn gweld o leiaf £30 miliwn o gyllid gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), gan drosoli hyd at £90 miliwn o fuddsoddiad ehangach, fydd yn targedu twf economaidd dan arweiniad arloesi yn y rhanbarth.
Dros raglen bum mlynedd, bydd y gronfa’n helpu i adeiladu amgylchedd rhanbarthol sy’n caniatáu i fusnesau, entrepreneuriaid ac intrapreneuriaid roi arloesi ar waith, gan fanteisio ar gryfderau mewn ymchwil academaidd a’i roi yn y farchnad fel y gall cynnyrch a gwasanaethau newydd ddod yn realiti.
Bwriodd Joanne Alison, Cyfarwyddwr, Rhaglen Lleoedd UKRI, y sylw, “Rydym yn gwirioneddol edrych ymlaen at weithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyflenwi’r Gronfa Partneriaeth Arloesi Lleol. Mae’n gyfle aruthrol gyffrous i gyflymu ecosystem ymchwil ac arloesi’r rhanbarth trwy fuddsoddiad hollol benodedig, a seiliwyd ar leoedd sy’n adeiladu ar gryfderau rhanbarthol.
“Trwy feithrin cydweithredu dyfnach rhwng busnesau lleol, sefydliadau ymchwil a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, ein nod yw datgloi cyfleoedd newydd ar gyfer twf cynhwysol, ysgogi cynhyrchiant, a chynorthwyo i ddatblygu sectorau sydd â photensial uchel. Gyda’n gilydd, gallwn greu tirwedd arloesi ffyniannus sy’n cyflawni gwir effaith i gymunedau ledled y rhanbarth.”
Dros y misoedd i ddod, bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn casglu data a thystiolaeth, ac yn ymgysylltu â’r gymuned fusnes ac ymchwil ranbarthol i ddeall ymhle y dylai’r gronfa ganolbwyntio, a sut y gall Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’u tîm arloesi ymroddedig adeiladu ar gryfderau diwydiannol presennol yn y rhanbarth.
Dywedodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr dros Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, “Rydym mor llawn cyffro o fod yn gweithio ar y fenter newydd hon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, fel rhan o’r rhwydwaith o 10 o ranbarthau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’n destament i’r arloesi sydd eisoes yn digwydd ledled ein deg awdurdod lleol, p’un a yw hynny trwy’n sector cyhoeddus anhygoel, gallu gwych ein hacademyddion neu yn y sector preifat.
“Mae’r cyfan yn golygu dod â thechnoleg, doniau a masnach i’n rhanbarth sy’n tyfu ac sy’n ffyniannus. Edrychaf ymlaen at weld sut mae’r rhaglen hon yn datblygu dros y pum mlynedd nesaf ac yn cyfnerthu De-ddwyrain Cymru fel un o ranbarthau blaenllaw’r Deyrnas Unedig am arloesi.”
Bydd y rhaglen a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn defnyddio ‘helics triphlyg’ diwydiant, y byd academaidd a’r sector cyhoeddus i sicrhau y gwneir pob penderfyniad mewn ffordd a ddaw â’r buddion gorau i’r rhanbarth, a gyda thryloywder.