PRC yn gyrru ton o ynni solar wrth i Switch Together ailagor ar gyfer cartrefi

Categorïau:

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) yn annog aelwydydd ledled de-ddwyrain Cymru i gofrestru ar gyfer ail rownd Switch Together (a elwid gynt yn Solar Together), y cynllun prynu solar ar y cyd sydd eisoes wedi helpu mwy na 560 o aelwydydd yn y rhanbarth i dorri eu biliau ynni, hybu eu gwydnwch ynni a lleihau allyriadau carbon.

Mewn partneriaeth â saith awdurdod lleol – Caerdydd, Torfaen, Casnewydd, Caerffili, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg ac iChoosr, mae Switch Together yn defnyddio pŵer prynu mewn grŵp i sicrhau gosodiadau solar o safon am bris cystadleuol, gan roi mynediad i drigolion at gyflenwyr dibynadwy, prisio tryloyw a chymorth cam wrth gam.

Yn 2025, datglodd rownd gyntaf y cynllun dan arweiniad Cyngor Caerdydd ar ran y rhanbarth, dros £3.9 miliwn o fuddsoddiad preifat mewn cartrefi lleol ac mae disgwyl iddo dorri tua 365 tunnell o garbon yn ei flwyddyn gyntaf.

Mae hefyd wedi rhoi hwb i economi’r rhanbarth gyda’r holl waith yn cael ei ddarparu gan osodwyr dibynadwy, sydd wedi’u gwirio’n lleol, ac wedi cael sgoriau boddhad cwsmeriaid o 90% neu uwch.

Dywedodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr PRC: “Mae Switch Together yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio rhanbarthol fod o fudd uniongyrchol i fywydau pobl, gan helpu aelwydydd i arbed arian ar adeg pan fo costau ynni’n parhau i fod yn bryder gwirioneddol, wrth gefnogi’r newid i ddyfodol mwy gwyrdd a gwydn.
“Rydym ni’n buddsoddi mewn prosiectau sy’n meithrin sgiliau lleol, yn cryfhau ein heconomi werdd ac yn gwneud dewisiadau sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd yn haws i bawb. Mae llwyddiant rownd un yn dangos pa mor bwerus y gall y dull hwnnw fod ac rydym ni wrth ein bodd yn cefnogi cam nesaf y fenter hynod gadarnhaol hon.”

Boed yng nghanol y ddinas neu yng nghorneli mwyaf gwledig y rhanbarth, mae perchnogion tai wedi gallu manteisio ar arbedion, cefnogaeth a buddion ynni glân y cynllun.

Wrth siarad am bŵer cynghorau yn cydweithio i gyflymu gweithredu ar yr hinsawdd, ychwanegodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Jamie Pritchard, cyn-arweinydd hinsawdd PRC: “Fel cyn-arweinydd hinsawdd PRC, rydw i’n credu ers tro bod cydweithio rhanbarthol yn allweddol i wneud technolegau carbon isel yn fwy hygyrch i aelwydydd cyffredin ac mae Switch Together yn profi hynny.
“Drwy weithio ar y cyd, rydym ni’n lleihau rhwystrau, yn creu swyddi lleol medrus ac yn helpu trigolion i wneud arbedion hirdymor ar adeg pan fo pob punt yn bwysig. Mae’r cam nesaf hwn yn adeiladu ar lwyddiant go iawn ac yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni pan fydd cynghorau a chymunedau’n symud ymlaen gyda’i gilydd.”

Mae cofrestru ar gyfer Switch Together yn rhad ac am ddim, yn gyflym ac nid oes unrhyw rwymedigaeth, sy’n rhoi cyfle i aelwydydd archwilio eu hopsiynau gyda hyder llwyr. Mae pob gosodiad sy’n cael ei drefnu trwy’r cynllun yn dod gyda gwarant wedi’i gefnogi gan yswiriant, sy’n cynnig tawelwch meddwl hirdymor. Gall trigolion gofrestru yn Switch Together South East Wales

Mae cymorth hefyd ar gael i aelwydydd incwm isel neu fregus trwy gynllun Nyth Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim gan gynnwys paneli solar i’r rhai sy’n gymwys. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Get help with energy efficiency in your home from Nest | GOV.WALES

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) newydd groesawu a chynnal tîm Twf Rhanbarthol Connected Places Catapult yn ei swyddfeydd Sbarc yng Nghaerdydd, gan gryfhau’i phartneriaeth strategol gyda sbardunwr arloesi’r Deyrnas Unedig ar gyfer trafnidiaeth, yr amgylchedd adeiledig, dinasoedd a thwf lleol.  

Subscribe for updates

Skip to content