Mae ein herthygl ‘Venturescape’ gyntaf yn 2022 yn archwilio craidd dysgu cydweithredol sy’n rhedeg drwy un o sectorau blaenoriaeth allweddol P-RC: y Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CLlC) sydd wedi tyfu o nerth i nerth fel cynhyrchydd blaenllaw o ddyfeisiau silicon o’r radd flaenaf mewn radiws o 20 milltir o amgylch Casnewydd.
Mae ecosystem arloesol a adeiladwyd ar arbenigedd cyfunol IQE plc, Newport Wafer Fab, SPTS Technologies a CSA Catapult, mae’r CLlC yn ganolfan ragoriaeth a gydnabyddir yn fyd-eang, gyda phedigri balch o greu llawer o’r datblygiadau technolegol mwyaf arloesol ar y blaned – o bweru’r genhedlaeth nesaf o gyfathrebiadau symudol a darparu oes newydd mewn technoleg feddygol, i lunio dyfodol goleuo rhad-ar-ynni a gyrru esblygiad cyflym ceir trydan.
Fel canolfan arloesi fyd-enwog – a chynhyrchydd y gyflogaeth o ansawdd uchel sy’n gonglfaen i ffyniant a ddiogelir ar gyfer y dyfodol – mae’r CLlC yn chwaraewr hollbwysig wrth gynyddu GYC ein rhanbarth yn esbonyddol ar draws y gadwyn gyflenwi; ac yn y nodwedd hon rydym yn darganfod y ffynhonnell dalent sy’n cael ei meithrin drwy’r amrywiaeth eang o raglenni dysgu pwrpasol a chyrsiau hyfforddi a gynigir ledled y De-ddwyrain …
Rhaglenni dysgu aml-lefel, i Brentisiaethau a Thu Hwnt
Mae clystyrau drwy ddiffiniad wedi’u hadeiladu ar bartneriaethau – ac mae’r rhaglenni hyfforddi sy’n sail i Glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd P-RC wedi mynd â’n hysbryd cydweithredol cynhenid i uchderau newydd. Ar draws y rhanbarth, mae ein sefydliadau AB ac AU wedi cydweithio’n agos â chynrychiolwyr diwydiannol y CLlC i gynllunio cyfres gynyddol o gyrsiau, o BTEC i lefel PhD, sy’n gallu cynnal safle’r clwstwr – y gweithiwyd yn galed amdani – fel yr arweinydd byd-eang mewn technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig llwybr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Lefel 3 i fyfyrwyr BTEC, SIY a Safon Uwch, yn ogystal â HNC Lefel 4 – ac mae mewn cwmni da, gyda Choleg Merthyr hefyd yn cynnig pwynt mynediad TGU Lefel 4 i’r llwybr gyrfa hynod wobrwyol hwn. Mewn sawl ffordd, dim ond dechrau taith ddysgu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yw hynny, gyda thri o’n sefydliadau AB lleol – Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Gwent a Choleg y Cymoedd – yn darparu cyfleoedd mynediad ar lefel prentisiaeth ar Lefel 4 (HNC) a Lefel 5 (HND); ac mae Prifysgol Agored Cymru yn ategu’r opsiynau hyn ymhellach drwy gynnig rhaglenni Lefel 5 (HND) a Lefel 6 (Prentisiaeth Gradd).
Mae pob un o’r cyrsiau hyn wedi’u halinio’n ofalus ag anghenion y CLlC – a lle bynnag y bo modd, i amgylchiadau dysgu’r myfyriwr, gan roi cyfle i bob dysgwr wneud y mwyaf o’i botensial yn llawn. Mae’r canlyniadau wedi bod yn galonogol iawn – a hyd yn oed yn drawsnewidiol – gyda’r Brentisiaeth Lefel 6 a ddarparwyd gan Brifysgol De Cymru (PDC) yn mabwysiadu’r dull pwrpasol hwn o ymdrin â lefel newydd, ar gyfer ‘talent ffres’ a phobl sydd eisoes wedi’u cyflogi yn y CLlC.
Prentisiaeth Graddedigion drawsnewidiol PDC – ac MSc a PhD Prifysgol Caerdydd sy’n torri tir newydd
Mae PDC wedi datblygu Gradd-brentisiaeth Lled-ddargludyddion pwrpasol sydd wedi dod yn rhan allweddol o strategaeth sgiliau a datblygu Newport Wafer Fab – gan adeiladu ar y cymwysterau sydd eisoes gan weithwyr NWF a chysoni â chyfrifoldebau gwaith i alluogi dysgwyr i gyrraedd lefel gradd yn yr amser gorau posibl. Mae’n rhaglen sydd o fudd i bawb ac sy’n gwella sgiliau gweithwyr NWF, yn cynnal galluedd cynhyrchu NWF – ac yn grymuso pob rhanddeiliad i fod ar y blaen wrth arloesi.
Mae’r awydd hwnnw am dorri ffiniau hefyd wedi gweld Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd yn creu MSc blwyddyn mewn Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Mae’r ICS yn gyfleuster unigryw yn y DU, sy’n canolbwyntio ar greu canolfan fyd-eang ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae’r Sefydliad yn cynnwys IQE plc, Newport Wafer Fab a SPTS Technologies – a’i nod yw manteisio ar wybodaeth ac arbenigedd Prifysgol Caerdydd, gan symud ymchwil academaidd i fan lle gellir ei gyflwyno’n ddibynadwy ac yn gyflym i’r amgylchedd cynhyrchu.
Mae’r MSc chwyldroadol hwn yn cynnig cwricwlwm hyblyg sy’n cynnwys y canlyniadau a’r datblygiadau arloesol diweddaraf – gan ymgorffori’r technegau addysgu a dysgu mwyaf effeithiol – wedi’u teilwra i wneud y mwyaf o botensial y myfyriwr a’n clwstwr yn ei gyfanrwydd. Mae’n ddull arloesol sydd hefyd wedi gweld Prifysgol Caerdydd yn sefydlu’r PhD mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (mewn partneriaeth â phrifysgolion Manceinion, Sheffield ac UCL) – gan feithrin cysylltiadau agos â’r CLlC a darparu llwyfannau dysgu a gyrfa eithriadol i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Mae darpariaeth ein rhanbarth o ystod mor eang o raglenni dysgu lled-ddargludyddion cyfansawdd yn arwydd o aeddfedrwydd a statws o’r radd flaenaf ein CLlC. Mae’n sector y rhagwelir y bydd yn creu dros 5,000 o swyddi o ansawdd uchel yn y pum mlynedd nesaf – ac mae’n syniad braf ein bod yn rhoi’r sgiliau i’n cronfa dalent frodorol i gyflawni’r nod o greu ‘swyddi gwell yn nes at adref’.
Yn ein herthygl Venturescape yn ddiweddarach y mis hwn, byddwn yn edrych ar ein darpariaeth o gyfalaf dynol ar gyfer sector blaenoriaeth arall sy’n prysur gael ei gydnabod am ei safon fyd-eang – gan archwilio sut mae partneriaethau hyfforddi ein rhanbarth yn creu ecosystem Seiberddiogelwch o’r radd flaenaf yn y P-RC …