Diweddariad statws fis Mawrth 2021
Mae’r Dechnoleg Cool Plasma yn parhau i gael ei datblygu gan Creo Medical, gyda chamau sylweddol yn cael eu cymryd yn dilyn y cymorth buddsoddi gan Fargen Ddinesig P-RC. Mae partneriaethau ar draws y byd academaidd, masnachol a’r llywodraeth yn helpu i ddatblygu’r cynhyrchion. Cafodd staff peirianyddol a rheoli prosiectau eu recriwtio i yrru’r datblygiad cynnyrch parhaus ymlaen i fodloni gofynion defnyddwyr terfynol a chynlluniau masnachol.