Creu byd cynhwysol a gwell trwy Dechnoleg Er Lles

Categorïau:
Our Region in Action

Mae llawer o elfennau i’r ymdrech i wneud y byd yn lle mwy cynhwysol.

Mae’r galon a’r meddwl yn elfennau allweddol, wrth gwrs – mae angen i bobl gredu ac ymddiried ym manteision cymdeithas ac economi gynhwysol, i wneud iddo ddigwydd.

Ac mae angen i dechnoleg fod yn rhan greiddiol o’r cyfuniad elfennau hefyd, os ydyn ni’n mynd i greu rhanbarth blaengar ac addas at yr 21ain ganrif lle mae pawb yn teimlo wedi’u cynnwys, bob dydd.

Felly mae’n gysur gwybod bod P-RC yn gartref i dîm technoleg sy’n byw, anadlu, meithrin a chyflawni cynwysoldeb gydag effaith gymdeithasol go iawn – gan greu amrywiaeth o gynhyrchion digidol sy’n cael eu creu â chynhwysiant yn ganolog iddynt, wedi’u dylunio’n fwriadol i greu byd gwell.

Enw’r tîm ysbrydoledig a chynhwysol hwnnw? Big Lemon: ffenomen sydd â ffocws byd-eang ac sydd wedi bod ar flaen y gad o ran ‘Technoleg Er Lles’ ers 2014. Cwmni y mae ei gynnyrch eisoes yn helpu pobl i ddod o hyd i’r swyddi sy’n iawn iddyn nhw … gan rymuso unigolion a chymunedau i ymgyrraedd at sero carbon … meithrin y mudiad cyd-gynhyrchu rhyngwladol … galluogi pobl i gael mynediad at ofal iechyd arloesol drwy apiau hawdd eu defnyddio … a dod yn gwmni byd-eang yn y 5% uchaf o ran effaith gymdeithasol.

Fel eneidiau hoff gytûn, sydd wedi ymrwymo at gael pobl i gymryd rhan a rhoi llais i bawb, buom yn cael sgwrs gyda sylfaenydd Big Lemon, Sam Wheeler, i glywed mwy am ddiwylliant, gwaith a gweledigaeth y tîm rhyfeddol hwn …

 

Creu technoleg sy’n cynnwys pawb.

“Rydym yn adeiladu cynhyrchion digidol sydd wedi’u hanelu at roi llais i bobl a gadael y byd mewn lle gwell” eglura Sam.  “Rydyn ni’n ei alw’n ‘Technoleg Er Lles’, a ddarperir gan apiau, dyluniadau gwe a gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar greu effaith gymdeithasol gynhwysol a chynaliadwy, bob un yn ffyddlon i gred graidd Big Lemon mewn tryloywder a gofal – a’n gweledigaeth na ddylai technoleg fod yn rhwystr i gyflawni newid mawr.

“Mae’r ysbryd hwnnw o gynwysoldeb yn diffinio’r bobl rydyn ni’n dewis creu partneriaethau â nhw. Gallech fod yn sylfaenydd gyda syniad mawr, yn fusnes sy’n chwilio am bartner technoleg tryloyw neu nid er elw yn barod i arddangos eich effaith gymunedol – i ni, mae’r cyfan yn ymwneud â gweithio gyda chi fel un tîm, cyd-ddylunio cynhyrchion digidol gyda phwrpas, creu technoleg i bobl sy’n poeni am y blaned a’r bobl sy’n byw arno.

“Efallai ei bod yn swnio’n amlwg, ond y ffordd o sicrhau bod eich cynnyrch yn cyrraedd y mwyaf o bobl ac yn creu’r effaith fwyaf posib yw sicrhau bod eich cynulleidfa yn rhan o’r hyn rydych chi’n ei wneud.  Mae ein cred mewn cyd-greu – gan ganolbwyntio ar greu atebion sydd â chanlyniad cadarnhaol i’r defnyddiwr terfynol – yn ein galluogi i ddarparu cynhyrchion digidol mae pobl wrth eu boddau yn eu defnyddio, wedi’u datblygu gyda chynhwysiant wrth eu calon.  Mae hefyd yn golygu bod popeth rydym yn ei adeiladu yn grymuso ein cwsmeriaid i greu newid cadarnhaol.

Tîm cynhwysol, wedi ei ysbrydoli i wneud y peth iawn.

“Mae’r ethos yna’n cael ei rannu gan ein cydweithwyr yn ogystal â’n cwsmeriaid.  Rydyn ni’n griw bach o bobl sydd wir yn poeni am effaith y cynnyrch rydyn ni’n ei gynhyrchu.  Ers 2014, rydyn ni wedi bod yn dylunio ac yn adeiladu technoleg ystyrlon ar gyfer cynhyrchion digidol sy’n grymuso eraill i gyflawni newid cadarnhaol – Ac rydyn ni’n angerddol dros y gwerthoedd hynny ynghylch ‘gwneud y peth iawn i bawb’ bob dydd, o fewn ein tîm ein hunain.

“Rydyn ni wedi tyfu ein cwmni yn bwrpasol yn y ffordd fwyaf cynhwysol bosibl. Mae diwylliant tîm yn beth pwysig i ni ac rydyn ni’n falch o fod wedi ein hadeiladu ar sail  Sgiliau amrywiol a gwahanol ffyrdd o feddwl – wedi eu dwyn ynghyd gan bobl o bob cefndir, i gyd yn rhannu cred mewn bod yn agos-atoch, yn onest ac yn ddynol.

“Rydyn ni’n dîm sydd â chenhadaeth i wneud ein rhan i ddatrys heriau’r blaned – drwy dechnoleg gyda phwrpas – ac rydyn ni’n rhoi’r hyn rydyn ni’n ei bregethu ar waith ym mhob ffordd bosib. Mae’n bwysig iawn i ni ein bod yn creu amgylchedd lle gall pawb fod yn nhw eu hunain a bod ar eu gorau, felly hyd yn oed cyn y pandemig roedden ni wedi bod yn annog gweithio hyblyg a gweithio hybrid i bawb yn ein tîm, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiant mawr o ran denu talent o bob cymuned a chreu cydbwysedd gwaith/bywyd sydd mor bwysig ar gyfer lles personol a chynhyrchiant proffesiynol.

Cefnogi’r person cyfan, nid dim ond y sgiliau sydd ganddynt.

“Pan darodd COVID fe benderfynon ni hyrwyddo mwy o hyblygrwydd – gydag oriau gwaith craidd 10am-3pm oedd yn galluogi pawb yn y tîm i weithio oriau oedd yn addas iawn iddyn nhw. Mae rhai pobl yn naturiol yn ‘bobl y bore’, eraill yn dylluanod nos ac mae gan lawer ohonyn nhw gyfrifoldebau teuluol neu gyfrifoldebau eraill – Rydyn ni’n cefnogi’r person cyfan a’i fywyd, ac nid dim ond y sgiliau y dônt â nhw i’w gwaith.  Ac fe wnaethon ni ddatblygu’r meddylfryd hwnnw ymhellach haf diwethaf, gan dreialu wythnos 4 diwrnod heb ostyngiad cyflog, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr.

“Roedden ni’n poeni ychydig ar y dechrau a fyddai wythnos 4 diwrnod yn effeithio ar y gwasanaeth i gleientiaid – oherwydd mae’n rhaid i ni gyflawni bob amser – ond aeth y treial yn dda iawn: buom yn siarad yn gyson â’n tîm a’n cleientiaid drwy gydol y treial, i werthuso cynhyrchiant a sicrhau ei fod yn gweithio er budd pawb. Ac fe wnaeth, felly fe wnaethon ni fabwysiadu wythnos waith 4 diwrnod yn barhaol ym mis Ionawr – ac mae’r newid wedi bod yn hynod gadarnhaol, gan ein symud i lefel hollol newydd o ran cynhyrchiant a lles cyffredinol. Mae’r oriau gwaith wedi gostwng ac rydyn ni’n dal i gyflawni o fewn terfynau amser a chyflawni’r gwasanaeth sydd ei angen – i’r fath raddau fel ein bod yn ei rhoi cyngor i lawer o sefydliadau eraill ar wythnos waith bedwar diwrnod, gan gynnwys Myers Briggs yng Nghaliffornia a gysylltodd â ni’n ddiweddar i drafod sut y gallai weithio yn eu sefydliad eu hunain.

“Craidd y cyfan yw ein bod wedi gallu recriwtio a chadw talent llawer mwy amrywiol oherwydd y ffordd rydyn ni’n gweithio – trwy roi mynediad i bobl fydden ni ddim wedi gallu eu denu fel arall – a hynny mewn diwydiant nad yw’n adnabyddus am ei amrywiaeth, yn enwedig yma yng Nghymru. Mae cadw pawb yn ein tîm mor bwysig gan mai dim ond hyn a hyn o dalent sydd ar gael – ac mae ein hagwedd yn golygu y gallwn dyfu a dysgu gyda’n gilydd fel teulu, er lles pawb.”

Tîm yn y 5% uchaf yn fyd-eang o ran effaith gymdeithasol.  

“I ni, mae ‘dod â dy hun i’r gwaith’ yn golygu hynny’n union – ac rydyn ni’n rhannu ein hangerdd a’n gwybodaeth â’n gilydd, drwy sesiynau ‘Jedi’ hanner awr lle mae aelodau’r tîm yn sôn am rywbeth sy’n bwysig iddyn nhw. Hyd yn hyn, mae’r sesiynau hyn o rannu diddordebau wedi cynnwys popeth o Ffermio Gwymon a Dungeons & Dragons i Nofio ac, yn fy achos i, gwaith allgymorth STEM gydag ysgolion lleol. Mae’n ymwneud â deall mwy am yr hyn sy’n gwneud i bob un ohonon ni weithio fel unigolion – a gwir ddathlu ein gilydd fel pobl yn hytrach na chydweithwyr yn unig.

“Mae’r math hynny o gynhwysiant-wrth-galon-y-cyfan yn cael ei ymgorffori ym mhob prosiect rydyn ni’n ei gyflawni. Ein nod yw darparu y mynediad mwyaf posibl i bob cynnyrch – gan gyd-gynhyrchu gyda’r gynulleidfa ehangaf bosibl o’r cychwyn cyntaf yn hytrach na’i adael tan y cam profi ar y diwedd, gan ystyried cymaint o farn a phrofiad unigol ag y gallwn o’r dechrau.

“Nid yw’r ethos hwnnw o ymgorffori cynwysoldeb a hygyrchedd ar ddechrau pob prosiect yn rhywbeth sy’n cael ei ymarfer yn eang yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig; ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn arwain y dull hwnnw. Mae’n golygu ein bod yn dweud ‘na’ i ymgymryd â phrosiectau nad ydyn nhw’n cyd-fynd â’n maen prawf o gael effaith gymdeithasol gadarnhaol, ond weithiau gallwn droi hynny’n ‘ie’ drwy ychwanegu dimensiwn effaith gymdeithasol i ddarpar brosiect – er enghraifft, dyrannu 10% o refeniw prosiect i elusen neu waith cymunedol. Rydyn ni’n ceisio cael pawb ar y daith yma, felly rydyn ni’n ei hyrwyddo ymhob ffordd y gallwn ni.”

“Gyda’i gilydd, mae ein diwylliant gwaith, pwyslais ar gyd-gynhyrchu ac ymrwymiad i Dechnoleg Er Lles wedi arwain at Big Lemon yn cael ein cydnabod  ymhlith 5% gorau’r byd o ran mentrau tebyg i’n menter ni, o ran effaith gymdeithasol. Mae’n sylfaen gref i dyfu ohono – a thyfu yw ein nod, mewn ffordd gynhwysol ac ysbrydoledig, yma yng Nghymru.”


Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn parhau i ail-lunio De-ddwyrain Cymru o amgylch y pedwar nod, sef arloesedd, cynaliadwyedd, cynwysoldeb a chysylltedd – gyda phenawdau mis Medi yn cynnwys dyfeisgarwch heb ei ail Space Forge, Ecosystem Hydrogen gyntaf y DU Porth y Gorllewin, Chwarae Teg sy’n dathlu eu haelodau bwrdd newydd a'u digwyddiad Womenspire, a Gwobrau STEM Cymru 2022 sy’n cydnabod y rhai sy'n cysylltu ein rhanbarth fel erioed o'r blaen...

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.