Creu ‘Cyfalaf Cymunedol’ ar draws Sir gyfan

Categorïau:
Arwain Agweddau

Pan ddaeth Richard John yn Arweinydd newydd etholedig Cyngor Sir Fynwy ym mis Mai eleni, daeth yn geidwad allweddol i Sir y mae llawer yn ei hystyried yn un o’r rhai harddaf yng Nghymru (a’r DU) – ardal sy’n cynnwys y Mynyddoedd Duon, Dyffryn Gwy a llawer o henebion hanesyddol o fewn ei ffiniau. Mae hefyd yn gartref i tua 95,000 o bobl sy’n byw ar draws sir wledig yn ei hanfod, sy’n cynnwys trefi fel y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy, a Brynbuga. Buom yn siarad â Richard am y sbardunau allweddol sy’n ei ysgogi – a’i obeithion a’i uchelgeisiau yn y dyfodol ar gyfer sir unigryw a rhanbarth sy’n esblygu’n gyflym …      

“Mae’r teimlad o gymuned ac ymdeimlad o berthyn yn hanfodol i bob un ohonom fel bodau dynol”

“Rwyf wastad wedi ymddiddori mewn bywyd cymunedol – ac wastad wedi credu bod y teimlad o gymuned ac ymdeimlad o berthyn yn hanfodol i ni fel bodau dynol. Fel Cynghorydd Ward ceisiais helpu pobl i ymfalchïo cymaint ag y gallent yn y lle y maent yn byw ynddo – gan fwynhau’r cyfeillgarwch a’r teimlad cadarnhaol o gymryd rhan mewn casglu sbwriel yn rheolaidd a gweddnewid cyfleusterau lleol gan gynnwys llochesi bysiau. Rwyf hyd yn oed wedi cael fy hun yn reddfol yn sychu’r mwd o arwyddion ffyrdd ar lonydd gwledig anghysbell – oherwydd yn y pen draw rwy’n credu mai’r ymdeimlad hwnnw o ddinasyddiaeth, o deimlo’n rhan o rywbeth arbennig sy’n gwneud i ni fod eisiau meithrin a gwella popeth a allwn. Rydym wedi gweld rhai enghreifftiau rhagorol o hynny yn ystod y pandemig, wrth gwrs – i rai pobl, efallai eu bod hyd yn oed wedi teimlo’n rhan o’u cymuned am y tro cyntaf erioed yn ystod argyfwng y 15 mis diwethaf – ac rwyf am adeiladu ar y ‘cyfalaf cymunedol’ hwnnw ar draws y sir.

“Rwyf eisiau adeiladu ar y ‘cyfalaf cymunedol’ hwnnw ar draws y sir”

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gwneud popeth i gefnogi pawb mewn unrhyw ffordd y gallwn. Y funud y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol i fusnesau, gwnaethom dalu iddynt ar draws ein Sir, hyd yn oed cyn i ni dderbyn cyllid y llywodraeth – ac rydym wedi gwneud adfer busnes, yn enwedig yn y sectorau sydd wedi dioddef waethaf fel lletygarwch, yn flaenoriaeth fawr. Ond mae hyn yn ymwneud â lles unigolion yn ogystal â busnesau. Mae iechyd corfforol a meddyliol pawb yn rhan hanfodol o’n hadferiad fel sir – gan helpu pawb i deimlo’n ddiogel ac yn ‘iawn’.

“Felly un o’n prif nodau yw gwella ein cyfleusterau hamdden i helpu pobl, yn enwedig y rhai sy’n dioddef anghydraddoldebau o ran iechyd ac incwm. Sut gallwn ni helpu pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu lles? Sut gallwn ni annog pobl i fynd i stiwdio ddawns, clwb ffilm neu goffi a sgwrs yn y ganolfan hamdden leol? Rydym yn falch ein bod yn cynnal ein gwasanaethau hamdden a’n hatyniadau awyr agored mewn ffordd fasnachol, oherwydd mae hynny’n golygu y gellir eu cynnal, ond fel unrhyw le arall mae gennym gymunedau sy’n dioddef tlodi cudd, anghydraddoldebau incwm ac amddifadedd – ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda chefnogaeth drawsbleidiol i unioni hyn. I ni, mae hynny’n rhan enfawr o ‘Godi’r Gwastad’ ac mae lledaenu ffyniant cynhwysol yn rhan allweddol o adeiladu’n ôl yn well – a chreu ‘un gymuned’.

“Mae yna gryfder o ran cael safbwyntiau amrywiol, yma yn Sir Fynwy ac ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd”

“Rwy’n ffodus iawn o fod yn adeiladu ar waith Peter Fox, yr AoS newydd etholedig ar gyfer Trefynwy, a arweiniodd cyngor Sir Fynwy mor drawiadol am 13 mlynedd hyd at ei ethol i’r Senedd fis diwethaf. Mae Peter wedi bod yn fentor gwych i mi a llawer o gydweithwyr eraill y cyngor – mae’n un o’r prif resymau pam mae gennym bellach Gynghorwyr yn eu 30au, 40au a 50au yn ogystal â’u 60au, 70au ac 80au – a’r amrywiaeth honno o gefnogaeth a gwybodaeth, o allu ceisio barn gwahanol bobl sydd â phrofiadau bywyd gwahanol, yn bwysig iawn i mi.

Mae cryfder Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ei hamrywiaeth hefyd – mae wedi’i llunio o wahanol safbwyntiau, pob un yn cael ei ddal er lles pawb. Y ‘Lles Cyffredin’ hwnnw yw’r hyn rydym yn gweithio tuag ato yma yn Sir Fynwy a’r hyn rydym yn gweithio drosto ar draws y Rhanbarth: ymdrechu’n barhaus i adeiladu ar yr hyn rydym eisoes wedi’i gyflawni ac yn ceisio gwella bywydau pob person ym mhob cymuned yn gyson.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda naw arweinydd arall P-RC a dod i’w hadnabod – yn bennaf oherwydd ein bod bellach yn cael y cyfle i ddod yn chwaraewr mwy ar y llwyfan cenedlaethol, gan weithio gyda Llywodraethau’r DU a Chymru er budd pawb yn y rhanbarth.

Mae gennym eisoes fuddsoddiadau trawiadol ar y gweill ac wrth i ni droi’n endid mwy strategol, rwy’n hyderus y byddwn yn cyflawni hyd yn oed mwy gyda’n gilydd.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Wrth inni nesáu ar Ddiwrnod Cyfeillgarwch y Byd eleni, rydym yn dathlu ac yn coffáu’r cysylltiadau a’r partneriaethau y mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’u datblygu yn y flwyddyn gyntaf o’u tenantiaeth a leolir yn Cathays, o bartneriaethau â sefydliadau eraill a leolir yn sbarc … perthnasoedd a naddwyd drwy ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn yr adeilad … a mwy.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.