Yn dilyn ein cyhoeddiad am Gronfa Her Arloesi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC), mae’r Athro Kevin Morgan, Deon Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cyflwyno panel o arbenigwyr gofal iechyd ac arloesi i gynnal trafodaeth deallus a manwl am y fenter newydd.
Mae Confa Her Arloesi newydd P-RC yn agored i unrhyw fusnes sy’n gallu dangos datrysiadau technoleg efelychu cyflym ar gyfer hyfforddiant gofal iechyd. Mae’r panel arbenigol hwn yn trafod saith cwestiwn allweddol sy’n ymwneud â’r fenter, a sut y gall ganiatáu i sefydliadau’r sector cyhoeddus ddod yn gatalyddion ar gyfer sbarduno arloesedd ym maes gofal iechyd clinigol yng Nghymru.
Yn cymryd rhan yn y drafodaeth hon mae Rheolwr Cronfa Her P-RC, Gareth Browning, Rheolwr Canolfan Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI), Lynda Jones, Therapydd Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Arweinydd Clinigol ar gyfer yr her, Paul Twose a Chyfarwyddwr Arloesi a Gwella BIP Caerdydd a’r Fro, Jonathon Gray.
Bydd digwyddiad briffio ar-lein ar gyfer cynigwyr sydd â diddordeb yn cael ei gynnal ar 13 Mai rhwng 9am ac 11am. Rhagor o wybodaeth yma:
Dod o Hyd i Ddigwyddiadau Busnes Cymru – Llywodraeth Cymru, L, Trefnwyr Digwyddiadau
Gellir dod o hyd i fanylion am sut i wneud cais am yr her benodol hon yma.
Mae Cronfa Her P-RC yn croesawu datganiadau o ddiddordeb ar gyfer heriau pellach. I gysylltu am drafodaeth gychwynnol, anfonwch e-bost at ein partneriaid cyflenwi ym Mhrifysgol Caerdydd yn ccrchallengefund@cardiff.ac.uk i gael gwybod mwy.